Academydd o Gaerdydd yn ennill cyllid i gydweithio â chorff anllywodraethol hawliau merched blaenllaw
22 Hydref 2021
Mae un o ddarlithwyr Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cydweithio ag arbenigwyr mewn elusen blant flaenllaw ar astudiaeth i gefnogi’r gwaith o rymuso merched yn economaidd ac yn gymdeithasol.
Mae Dr Rosie Walters, darlithydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, wedi ymuno â Plan International ar yr astudiaeth Real Choices Real Lives (RCRL), sydd wedi bod yn dilyn bywydau 142 o ferched ers eu geni yn 2006. Mae'r merched yn byw ar draws tri chyfandir mewn naw gwlad (Benin, Brasil, Cambodia, Gweriniaeth Dominica, El Salvador, Ynysoedd y Philippines, Togo, Uganda a Fietnam). Mae cyfweliadau manwl rheolaidd gyda'r merched a'u rhoddwyr gofal yn archwilio agweddau a normau ar sail rhyw ym mhob cymuned a sut maent yn effeithio ar fywydau beunyddiol merched. Mae'r pynciau yr ymchwiliwyd iddynt hyd yma yn cynnwys mynediad merched i addysg, eu cyfran anghyfartal o dasgau domestig, cyfyngiadau a disgwyliadau rhieni o ran ymddygiad merched, trais ar sail rhywedd, iechyd a hawliau rhywiol ac atgenhedlol, a sut mae merched yn gwthio'n ôl yn erbyn y rhywiaeth a'r anghydraddoldebau y maent yn eu profi.
Yr haf hwn, dyfarnwyd cyllid i Dr Walters o Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i gynnal gweithdai meithrin gallu gyda staff Plan International ym mhob un o'r naw gwlad. Nod y gweithdai yw helpu i ymgorffori canfyddiadau'r astudiaeth yn rhaglenni'r sefydliad gyda merched ifanc, yn ogystal â'i waith eiriolaeth gyda llywodraethau cenedlaethol. Mae'r cydweithrediad hwn yn dwyn ynghyd arbenigedd helaeth y tîm yn Plan International a chefndir Dr Walters ei hun mewn ymchwil gyda merched mewn datblygiad rhyngwladol a dulliau ymchwil ansoddol.
Wrth siarad am ei phrofiad dywedodd Dr Walters, "Rydw i wedi bod yn ymwneud â'r astudiaeth ers 2019 ac mae'n wych ‘mod i wedi sicrhau'r cyllid hwn i allu datblygu'r cydweithrediad hwn ymhellach. Mae'r math hwn o astudiaeth ansoddol fanwl dros gyfnod o 18 mlynedd yn eithriadol o brin ac felly mae'r data'n cynnig cipolwg gwerthfawr iawn ar sut mae disgwyliadau teuluol a chymunedol yn llywio'r hyn y gall merched ei wneud, a bod, o ddechrau eu bywydau a'r holl ffordd drwy’r glasoed. Nawr, diolch i'r prosiect hwn, gallwn ddechrau meddwl sut i drosi'r mewnwelediadau hyn yn newid ystyrlon."
Mae'r prosiect yn rhan o gydweithrediad ehangach, parhaus rhwng Plan International a'r Brifysgol, sydd hyd yma wedi cynhyrchu nifer o bapurau cynhadledd a gyd-ysgrifennwyd ac erthygl cyfnodolyn ar ganfyddiadau'r astudiaeth, a gyhoeddir yn yr International Feminist Journal of Politics yn ystod y misoedd nesaf. Mae dau fyfyriwr israddedig o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth hefyd wedi bod yn gweithio eleni ar godio a dadansoddi'r rownd ddiweddaraf o gyfweliadau gyda merched a'u teuluoedd.
"Rwy'n gobeithio mai dyma'r cyntaf o lawer o brosiectau o'r math hwn," meddai Walters. "Rwy'n falch iawn o allu cefnogi sefydliad fel Plan yn fy ngwaith, ac rwy'n credu ei bod hi’n wych i fyfyrwyr allu gweld sut y gall rhai o'r damcaniaethau a'r dulliau ymchwil mwy haniaethol rydym yn eu trafod mewn seminarau droi'n brosiectau sy'n anelu at wneud gwahaniaeth go iawn."