Ysgol Busnes Caerdydd yn derbyn achrediad AMBA
22 Hydref 2021
Mae Ysgol Busnes Caerdyddwedi derbyn achrediad gan Gymdeithas MBAs (AMBA), un o awdurdodau mwyaf blaenllaw'r byd ar addysg fusnes ôl-raddedig, sy'n dangos ei hymrwymiad parhaus i ragoriaeth ym maes addysg reoli.
Ar ôl derbyn achrediad AMBA, gwahoddir holl fyfyrwyr MBA presennol a chynfyfyrwyr MBA diweddar Ysgol Busnes Caerdydd i ymuno â chymuned aelodau fyd-eang AMBA . Mae’r gymuned yn cynnwys dros 57,000 o fyfyrwyr a chynfyfyrwyr mewn mwy na 150 o wledydd. Ni chodir tâl am yr aelodaeth ac mae’n cynnig cyfleoedd i rwydweithio, arwain meddyliau, datblygu gyrfaoedd, ac amrywiaeth o fanteision.
Achrediad gan Gymdeithas MBAs (AMBA) yw'r safon uchaf o gyflawniad ym maes addysg fusnes ôl-raddedig. Mae ei feini prawf asesu trylwyr yn sicrhau mai dim ond y rhaglenni o'r radd flaenaf ac sy'n dangos y safonau uchaf o ran addysgu, cwricwlwm a rhyngweithio myfyrwyr, sy'n cyflawni achrediad Cymdeithas MBAs.
Wrth ddyfarnu’r achrediad, fe wnaeth aelodau panel achredu AMBA, sy'n cynrychioli uwch-reolwyr Ysgolion Busnes wedi’u hachredu gan AMBA yn fyd-eang, ganmol ymrwymiad yr Ysgol i'w strategaeth Gwerth Cyhoeddus, arweinyddiaeth y Deon, yn ogystal â chryfder ymchwil yr Ysgol. Tynnodd y panel sylw hefyd at y ffordd y mae ymchwil yr Ysgol yn llywio ei chwricwla MBA, yr hyfforddiant gweithredol a roddir i fyfyrwyr MBA, diwylliant colegol yr Ysgol, a phroffesiynoldeb staff y gwasanaethau proffesiynol.