Ewch i’r prif gynnwys

Kirsty Williams i gadeirio Bwrdd Cynghori'r Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol (RhCDRh)

22 Hydref 2021

Bydd gan y cyn-Weinidog Addysg Kirsty Williams rôl flaenllaw yn y Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol (RhCDRh), ar ôl cael ei phenodi'n Gadeirydd ei Bwrdd Cynghori.

RhCDRh yw rhaglen £65 miliwn Llywodraeth Cymru fydd yn galluogi pobl ifanc, dysgwyr a staff i ymgymryd â chyfleoedd dysgu strwythuredig neu brofiad gwaith dramor.

Bydd y Rhaglen – fydd yn cael ei chynnal yn y lle cyntaf rhwng 2022 a 2026 - yn galluogi’r cyfranogwyr o bob darparwr addysg a’r sector ieuenctid yng Nghymru i fanteisio ar gyfnewidfeydd rhyngwladol mewn ffordd debyg i'r cyfleoedd yr oedd Erasmus+ yn eu cynnig, yn Ewrop a thu hwnt. Bydd hefyd yn fodd i ddatblygu partneriaethau strategol sy’n bodoli eisoes yn ogystal â rhai newydd.

Rhagwelir y bydd 15,000 o bobl o Gymru yn cymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid tramor yn ystod y pedair blynedd, a bydd 10,000 yn dod i astudio neu weithio yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd Bwrdd Cynghori'r RhCDRh yn rhoi cyngor ar y strategaeth gyffredinol ar gyfer RhCDRh a'i gynllun cyflawni a'i gyllideb flynyddol, a bydd yn helpu i sicrhau bod yr RhCDRh yn cyflawni ar draws y sector addysg cyfan ac ar draws Cymru. Mae'r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o: Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru; ColegauCymru; Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol; partneriaeth Cymru Fyd-eang; Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru; Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid yr Awdurdodau Lleol; Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru; UCM Cymru; Prifysgolion Cymru; Addysg Uwch Cymru Brwsel; Senedd Ieuenctid Cymru; a Llywodraeth Cymru.

Bydd RhCDRh Cyf, is-gorff o Brifysgol Caerdydd, yn gwasanaethu fel gweithredwr y Rhaglen. Mae recriwtio ar y gweill i benodi Cyfarwyddwr Gweithredol a fydd yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen.

Dyma a ddywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu penodi Kirsty Williams i swydd y Cadeirydd. Mae ei hanes cryf o arwain ym maes addysg yng Nghymru, ynghyd â'i huchelgais ar gyfer pobl ifanc Cymru, yn ei gwneud hi'n Gadeirydd delfrydol i lywio datblygiad y Rhaglen newydd hon.

"Ym Mhrifysgol Caerdydd rydyn ni’n gweld â’n llygaid ein hunain yr effaith y bydd profiadau rhyngwladol yn eu cael ar ein myfyrwyr, gan ehangu eu gorwelion ac agor byd sy’n llawn cyfleoedd. Rwyf yn hynod o falch bod ymddiriedaeth wedi ei rhoi ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu'r Rhaglen, a byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sector addysg ac ieuenctid er budd pobl ifanc Cymru."

Dyma a ddywedodd Kirsty Williams: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy mhenodi'n Gadeirydd Bwrdd Cynghori'r RhCDRh. Mae'r Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle cyffrous i ddysgwyr o bob oedran yng Nghymru yn ogystal â'r rheiny sy'n gweithio yn y sector i ehangu eu gorwelion, ychwanegu at lwyddiannau blaenorol a meithrin cysylltiadau newydd ledled y byd. Edrychaf ymlaen at harneisio profiad ac arbenigedd sylweddol aelodau'r bwrdd cynghori i sicrhau bod y rhaglen yn cyflawni dros Gymru."

Rhannu’r stori hon