Gwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
21 Hydref 2021
Darlithydd athroniaeth yn ennill gwobr genedlaethol
Mae'r Uwch Ddarlithydd mewn Athroniaeth Dr Huw Williams wedi ennill Gwobr Gwerddon yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.
Enillodd Deon y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd y wobr am ei erthygl 'Y Llwybr tuag at Heddwch Parhaol: John Rawls a’r Athrawiaeth Rhyfel Cyfiawn’.
Mae Huw yn athronydd gwleidyddol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ddadl gyhoeddus yng Nghymru drwy ei gyfrolau Credoau'r Cymry ac Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig, a chyfraniadau amrywiol at gyfnodolion gan gynnwys Planet ac O'r Pedwar Gwynt. Fel cyd-olygydd mae hefyd wedi cyhoeddi’n ddiweddar The Welsh Way: Essays on Neoliberalism and Devolution gyda Gwasg Parthian.
Roedd gwobrau blynyddol y Coleg yn cydnabod darlithwyr a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg a wnaeth gyfraniad sylweddol at addysg cyfrwng Cymraeg ôl-orfodol yn ystod 2020-21.
Dywedodd Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews:
"Mae'n briodol iawn ein bod yn dechrau blwyddyn o ddathliadau i nodi degfed pen-blwydd y Coleg drwy wobrwyo rhai o'n dysgwyr a'n myfyrwyr Cymraeg disgleiriaf, a'n darlithwyr cyfrwng Cymraeg mwyaf ymroddedig. Myfyrwyr, dysgwyr a darlithwyr sydd wedi bod wrth wraidd llwyddiant y Coleg dros y degawd, ac rydym yn falch o'u llwyddiant ysgubol dros y flwyddyn ddiwethaf."
Ac yntau’n aelod oGyfraith Caerdydd a Chyfiawnder Byd-eang, mae gan Dr Huw Williams ddiddordeb arbennig mewn traddodiadau egalitaraidd a radicalaidd o feddwl, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu ag actifiaeth a'r maes cyhoeddus.