Cylchlythyr Chwarter 3 2021
7 Hydref 2021
Achrediad Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP)
Yn dilyn archwiliad llwyddiannus o bell ym mis Gorffennaf, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cael ein hail-achredu tan fis Gorffennaf 2023 ar gyfer Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP). Mae'r achrediad hwn yn ategu ein hardystiad ISO 9001:2015.
Mae GCLP yn system ansawdd rhyngwladol sefydledig ar gyfer labordai sy'n dadansoddi samplau o dreialon clinigol yn unol â rheoliadau rhyngwladol Ymarfer Clinigol Da (GCP), gan sicrhau ansawdd a dibynadwyedd data'r treialon clinigol a gynhyrchir gan y labordy. Edrychwch at yr hafan GCLP Qualogy i gael rhagor o wybodaeth am yr achrediad hwn.
Rydym yn parhau i fod yn awyddus i gynyddu’n gwaith yn cefnogi treialon clinigol mewnol ac allanol. Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni gydweithio yn y maes hwn.
Ymunwch â'n cyfres gweminarau Mynegiant Genynnau
Rydym yn cynnal cyfres gweminarau â thair rhan, Mynegiant Genynnau, gan ThermoFisher. Bydd y gweminarau hyn yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 16 Tachwedd, dydd Mercher 17 Tachwedd a dydd Iau 18 Tachwedd, rhwng 2pm a 4pm bob diwrnod.
Cofrestrwch am y gweminarau ar y dolenni isod:
RHAN 1 Cyflwyniad i Fynegiant Genynnau - 16 Tachwedd
RHAN 2 gweithdy qPCR - 17 Tachwedd
RHAN 3 Gweithdy Microarray - 18 Tachwedd
Mae'r gweminarau hyn ar agor i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd, sefydliadau academaidd eraill, y GIG a busnesau. Maent yn addas i ymchwilwyr sy'n newydd i'r meysydd hyn, yn ogystal ag ymchwilwyr mwy profiadol. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ymuno â ni.
Rheoli ansawdd yw'r elfen allweddol!
Roeddem yn falch o gael ein gwahodd i siarad am sut y gall System Rheoli Ansawdd (QMS) effeithiol fod o fudd i gyfleusterau craidd yn y gyngres Technolegau Craidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd yn ddiweddar (gweler ar y dde!). Mae manteision o gael QMS ar waith yn cynnwys cyfleoedd yn y farchnad allanol lle mae achrediad yn gyn-gymhwyster ac yn dangos yr ymrwymiad i dryloywder, olrhain, dibynadwyedd a gwelliant parhaus. Hefyd, mae Meddalwedd QMS (fel Q-Pulse) yn galluogi'r holl ddogfennau busnes a gwyddonol allweddol i gael eu storio mewn un lle gan ei gwneud yn hawdd i'r tîm cyfan ddod o hyd iddynt. Rheoli ansawdd yw'r elfen allweddol mewn gwirionedd!
Hoffech chi ddysgu mwy am Dechnolegau Craidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd?
Archwilio ar y wefan CTLS i ddysgu mwy am y gymdeithas hon a'r hyn y mae'n ei wneud i gefnogi'r llu o bobl sy'n gweithio mewn cyfleusterau craidd ledled y byd.
Hyfforddiant cytometreg lif
Noder, er mwyn talu cost darparu'r hyfforddiant hwn, mae yna ffi o £25 i fynychu pob un o'r gweminarau hyn (ar wahân i'r weminar Cytometreg Llif Uwch sy'n rhad ac am ddim i'w fynychu). Fe'ch anfonebir gan CBS ar ôl mynychu.
Rydym yn parhau i drefnu sesiynau hyfforddi ar ystod eang o bynciau i gefnogi ymchwilwyr y tu mewn a'r tu allan i Brifysgol Caerdydd. Cysylltwch â ni os ydych chi am ddal i fyny ar weminarau a gollwyd neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am sesiynau hyfforddi sydd ar ddod.