Arbenigwr ar lywodraethu i arwain y sgwrs genedlaethol ar ddyfodol Cymru
20 Hydref 2021
Bydd Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru o Brifysgol Caerdydd yn cyd-gadeirio Comisiwn Cyfansoddiadol annibynnol ar ddyfodol Cymru.
Mae'r Athro Laura McAllister yn ymuno â chyn-Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, i ymchwilio i berthynas y genedl â gweddill y DU, gan gynnwys annibyniaeth i Gymru.
Bydd y cyd-Gadeiryddion yn helpu’r Comisiwn i argymell sut y gall setliad cyfansoddiadol Cymru wella canlyniadau i bobl Cymru a chynnwys y cyhoedd mewn sgwrs genedlaethol orau.
Ac yntau wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru, bydd y Comisiwn annibynnol yn datblygu opsiynau ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol y DU, y mae Cymru’n dal i fod yn rhan annatod ohonynt. Bydd hefyd yn ystyried pob opsiwn blaengar i gryfhau democratiaeth yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae gwir angen cyfrannu o ddifrif at y ddadl gyfansoddiadol, ac rwy’n falch iawn y bydd ein gwaith yn helpu i lenwi’r bwlch hwnnw...”
Ychwanegodd Dr Williams, a gafodd ei wneud yn un o Gymrodorion Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd yn 2002: “Gwaith y Comisiwn hwn yw gofyn pa strwythurau a darpariaethau cyfansoddiadol fydd yn gwireddu potensial cymunedau a phobl Cymru orau...”
Roedd sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru’n ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Am fod y cyd-Gadeiryddion wedi’u penodi, bydd gweddill yr aelodau'n cael eu cadarnhau fis nesaf. Disgwylir i gyfarfod cyntaf y Comisiwn gael ei gynnal ym mis Tachwedd, hefyd.