Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyniad i Mandarin ar gyfer athrawon

16 Chwefror 2022

Mandarin for teachers course advert

Ydych chi erioed wedi ystyried dysgu hanfodion Mandarin Tsieinëeg? Efallai yr hoffech fod yn rhan o'i gyflwyno i'ch ysgol, cefnogi eich disgyblion i'w dysgu, neu efallai ei defnyddio i ddatblygu eich hun yn broffesiynol neu'n bersonol?

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein cwrs hyfforddi Tsieinëeg nesaf ar gyfer athrawon. Cynhelir Cyflwyniad i Mandarin i Athrawon am awr yr wythnos dros chwe wythnos, gan eich galluogi i ddysgu rhai o hanfodion yr iaith. Siaradwr Tsieinëeg brodorol sy’n ei addysgu, ac mae'n gwrs rhyngweithiol drwy Zoom. Unwaith y byddwch wedi ei gwblhau, cewch hefyd y cyfle i symud ymlaen i gwrs Tsieinëeg i Ddechreuwyr I Prifysgol Caerdydd sydd wedi’i ariannu’n llawn ym mis Ionawr neu fis Mai 22.

Mae'r rhaglen yn rhad ac am ddim, a bydd yn cael ei chynnal bob dydd Mercher am 6.30-7.30pm rhwng 2 Mawrth a 6 Ebrill. I fynegi eich diddordeb, cofrestrwch yma erbyn 12pm ddydd Llun 28 Chwefror.

Os hoffech ddarllen am y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y cwrs, eu profiadau a'r hyn yr aethant ymlaen i'w wneud â'u Tsieinëeg, darllenwch ein heitem newyddion yma. I gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Ysgolion Cymru Tsieina, gallwch hefyd ymweld â'r dudalen hon.

Os oes gennych gwestiynau neu os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno Tsieinëeg i'ch ysgol, cysylltwch â ni drwy ebostio ucelev@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon