Proffesiynoldeb ym maes Deintyddiaeth: Beth am fod yn gadarnhaol
20 Hydref 2021
Dros yr Haf, bu aelodau o dîm CUREMeDE yn rhan o gynhadledd Cymdeithas Addysg Ddeintyddol Ewrop (ADEE) 2021. Roedd Alison Bullock, Dorottya Cserzo, Emma Barnes a Sophie Bartlett o CUREMeDE yn hwyluswyr allweddol mewn Grŵp Diddordeb Arbennig o dan y teitl: Proffesiynoldeb mewn Deintyddiaeth: Beth am fod yn gadarnhaol.
Croesawodd y Grŵp Diddordeb Arbennig weithwyr deintyddol proffesiynol a rhanddeiliaid o bob rhan o Ewrop. Cyflwynwyd y rhai a oedd yn bresennol i ganfyddiadau o ymchwil ddiweddar ar broffesiynoldeb ym maes deintyddiaeth o farn gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd. Wedi'i ariannu gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC), cynhaliwyd yr ymchwil hon fel cydweithrediad rhwng CUREMeDE, Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Athens ac ADEE. Lawrlwythwch yr adroddiad llawn.
Ar ôl trosolwg o ganfyddiadau'r ymchwil, rhannodd y grŵp yn ystafelloedd llai i drafod pedair agwedd allweddol ar broffesiynoldeb:
- A yw disgwyliadau proffesiynoldeb yn wahanol?
- Ar gyfer gwahanol aelodau o'r tîm deintyddol?
- Ar gyfer deintyddiaeth o'i gymharu â phroffesiynau eraill?
- Beth yn eich barn chi yw'r materion a'r heriau sy'n dod i'r amlwg?
- Sut ydych chi'n addysgu israddedigion am broffesiynoldeb?
- Sut mae'r myfyrwyr yn dangos tystiolaeth o'u dysgu am broffesiynoldeb?
- Sut y gallwn gefnogi/mentora gweithwyr proffesiynol i ddysgu o'r bylchau a symud ymlaen?
Mae cofnod o'r digwyddiad a rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Grŵp Diddordeb Arbennig ADEE 2021.