Fi a fy nhechnoleg: Ymchwil athroniaeth yn llywio adroddiad arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Ryddid Meddwl
20 Hydref 2021
Trafodaeth ar rôl dyfeisiau wrth gefnogi meddwl mewn cynulliad rhyngwladol
Mae ymchwil gan yr athronydd o Gaerdydd Dr Orestis Palermos yn llywio'r drafodaeth ar ryddid meddwl yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Roedd Is Having Your Computer Compromised a Personal Assault? The Ethics of Extended Cognition yn gymorth i Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Ryddid Crefydd neu Gred, Ahmed Shaheed, wrth baratoi ar gyfer ei adroddiad i Gynulliad Cyffredinol y CU ym mis Hydref.
Mae adroddiad Mr Shaheed i Gynulliad Cyffredinol y CU yn cyfeirio at y papur, a ysgrifennwyd ar y cyd â Dr Adam Carter o brifysgol Glasgow, sy'n cynnig y dylid estyn y syniad o ymosodiad personol i ddiogelu nid yn unig rannau o'n cyrff ond hefyd nifer o'r arteffactau rydym ni'n eu defnyddio'n rheolaidd i gynnal ein bywydau gwybyddol.
Dywedodd y Darlithydd Athroniaeth Dr Palermos: "Wrth i dechnolegau newydd ymddangos, mae'r gwahaniaeth rhwng ein meddyliau a'n ategolion technolegol (ffonau clyfar, gliniaduron, tabledi ac ati) yn diflannu. Dan rai amodau o leiaf - sy'n ymddangos eu bod yn cael eu bodloni’n gynyddol dros amser - mae ein hatgofion, meddyliau a dyheadau'n byw'n ddilys yn ein cylchedau digidol lawn cymaint ag y maen nhw yn ein llwybrau niwral.
"Pan fydd hyn yn digwydd, rydym yn dadlau yn ein papur na ddylai unrhyw niwed, neu newid i gynnwys yr estyniadau technolegol i'n meddwl gyfrif fel difrod i eiddo yn unig, ond yn hytrach fel ymosodiad personol. Rhaid cyfaddef fod hwn yn gynnig radical, ac efallai fod angen ychydig o eglurhad, ond mae'n galonogol fod llunwyr polisïau ar y lefel uchaf i'w gweld yn barod i'w dderbyn. Mae datblygiadau technolegol yn cyflymu, ac mae'n rhaid i gyfraith ryngwladol a phenderfyniadau ar hawliau dynol gadw'n gyfredol."
Mae'r Rapporteur Arbennig ar ryddid crefydd neu gred yn arbenigwr annibynnol a benodir gan Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig . Tasg deiliad y mandad yw nodi rhwystrau sy'n bodoli ac sy'n datblygu sy’n atal pobl rhag mwynhau rhyddid crefydd neu gred (yn Erthygl 18 y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol) a chyflwyno argymhellion ar ffyrdd i oresgyn rhwystrau o'r fath.
Mae Dr Orestis Palermos yn ymchwilio ac yn addysgu ar y groesffordd rhwng athroniaeth meddwl a gwyddor wybyddol, epistemoleg, athroniaeth gwyddoniaeth ac athroniaeth technoleg.
Cyhoeddir Is Having Your Computer Compromised a Personal Assault? The Ethics of Extended Cognition yn y Journal of the American Philosophical Association.