Ai rhagor o drydan gwyrdd yw’r ateb i’r newid yn yr hinsawdd?
22 Hydref 2021
Nawr bod cyfle i leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ogystal â galw cynyddol am ynni, oes modd i ni redeg y byd ar drydan yn unig? Dyma'r cwestiwn a ofynnwyd i arbenigwyr y diwydiant yn rhaglen y BBC World Service, The Inquiry.
Y targed i lawer o wledydd ar draws y byd yw symud i ffwrdd oddi wrth danwydd ffosil, megis olew, glo a nwy, er mwyn cyrraedd allyriadau sero net o fewn y degawdau nesaf. I rai, yr ateb i'r broblem yw hybu cynhyrchu trydan "gwyrdd", fel bod modd i ni redeg ein trafnidiaeth, ein cartrefi a’n diwydiant ar bŵer trydanol. Mae gennym eisoes lawer o'r dechnoleg sy’n angenrheidiol i gynhyrchu trydan glân, ond i filiynau o bobl ar draws y byd, y broblem wirioneddol yw'r diffyg mynediad at drydan.
Yn y sgwrs gyda rhaglen y BBC World Service, The Inquiry, mae’r Athro Nick Jenkins, arweinydd grŵp y Ganolfan Cynhyrchu a Chyflenwi, Ynni Adnewyddadwy Integredig, yn gosod y cyd-destun ar gyfer y rhaglen drwy greu darlun o ddatgarboneiddio ar ffurf niferoedd.
Mae Ifeoma Malo, Prif Swyddog Gweithredol Clean Tech Hub, yn trafod y rôl bwysig sydd gan ynni glân wrth greu dyfodol cynaliadwy yn Nigeria a'r llu o atebion microgrid sydd ar gael yn eang, ond bod angen buddsoddi ynddynt ar frys er mwyn sicrhau graddfa fwy.
Mae Matteo Muratori, uwch beiriannydd yng Nghanolfan Genedlaethol y Labordy Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Gwyddorau Symudedd Integredig, yn rhoi blas ar ddyfodol lle mae ceir trydan yn rhan o gydbwyso'r system.
Yn olaf, mae Kirsten Smith, ymchwilydd cyswllt yn y Ganolfan ar Bolisi Ynni Byd-eang ym Mhrifysgol Columbia, yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae daearyddiaeth (tir, gofod a lleoliad) yn ei chwarae wrth drydaneiddio a'r heriau sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio diwydiant trwm.
Nid oes ateb effeithiol ar unwaith i ddatgarboneiddio, ond yn gryno, dywedodd siaradwyr y rhaglen, ie, gyda chymysgedd cryf o dechnoleg, cyllid da, a'r ddaearyddiaeth a’r polisi cywir i wneud iddo weithio, gallwn redeg y byd ar drydan adnewyddadwy.
I wrando ar y sgwrs, ewch i: https://www.bbc.co.uk/programmes/w3ct1z2b