Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

19 Hydref 2021

Un o raddedigion hanes yn ennill gwobr genedlaethol

Mae un o raddedigion Hanes o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd wedi ennill Gwobr John Davies yng Ngwobrau Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.

Enillodd Anwen Rhiannon Jones y wobr am ei thraethawd hir,"Iechyd y Cyhoedd a Chyfradd Marwolaethau Oedolion a Babanod: Profiad Llanelli 1880-1914".

Bellach yn fyfyriwr ôl-raddedig yn dilyn rhaglen MScEcon Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru yng Nghaerdydd, graddiodd Anwen gyda BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Hanes yn 2020.

Roedd gwobrau y Coleg yn cydnabod myfyrwyr a darlithwyr cyfrwng Cymraeg a wnaeth gyfraniad sylweddol i addysg cyfrwng Cymraeg ôl-orfodol yn ystod 2020-21.

Dywedodd Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews:

"Mae'n briodol iawn ein bod yn dechrau blwyddyn o ddathliadau i nodi degfed pen-blwydd y Coleg drwy wobrwyo rhai o'n dysgwyr a'n myfyrwyr Cymraeg disgleiriaf, a'n darlithwyr cyfrwng Cymraeg mwyaf ymroddedig. Myfyrwyr, dysgwyr a darlithwyr sydd wedi bod wrth wraidd llwyddiant y Coleg dros y degawd, ac rydym yn falch o'u llwyddiant ysgubol dros y flwyddyn ddiwethaf."

Maehanes ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei barchu'n rhyngwladol, yn yr 20 uchaf yn ei huned asesu yn y Fframwaith Ymarfer Ymchwil diweddaraf (2014) ac mae'n cynnig amrywiaeth o raglenni gradd gan gynnwys gyda Hanes yr Henfyd, Archaeoleg, Economeg, Llenyddiaeth Saesneg, Athroniaeth, Gwleidyddiaeth a Chymraeg.

Rhannu’r stori hon