Ewch i’r prif gynnwys

Darlithydd yn dweud 'diolch' gydag offeryn ar-lein newydd i ddysgwyr Cymraeg

19 Hydref 2021

Mae darlithydd o Frasil wedi datblygu offeryn ar-lein am ddim i ddysgwyr Cymraeg i ddweud diolch am yr help a roddwyd iddo yn ystod ei gais am ddinasyddiaeth Brydeinig.

Mae Dr RodolfoPiskorski, sy'n dysgu Portiwgaleg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, wedi byw yng Nghymru ers 2013 ar ôl symud i Gaerdydd i astudio doethuriaeth. Ers hynny, mae Dr Piskorski wedi cofleidio bywyd yn y brifddinas, yn dysgu Cymraeg ac yn dewis sefyll ei arholiad dinasyddiaeth Brydeinig drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan mai ef oedd y person cyntaf i wneud hyn, denodd penderfyniad Dr Piskorski ddiddordeb yn y wasg a llawer o roddion gan gefnogwyr a helpodd i dalu ei ffioedd dinasyddiaeth Brydeinig.

Gan ddymuno rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a'i cefnogodd mor hael, mae Dr Piskorski wedi datblygu offeryn dysgu ar-lein newydd o'r enw hir-iaith Hi-lite. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr ddadansoddi geiriau yn eu cyd-destun a dysgu eu defnydd. Mae'n helpu dysgwyr Cymraeg i ddeall nid yn unig beth mae geiriau unigol yn ei olygu, ond hefyd eu swyddogaeth ramadegol mewn brawddegau, eu ffurfiau gwahanol, a pham mae eu ffurf yn newid.

Wrth siarad am hir-iaith Hi-lite, dywedodd Dr Piskorski, "Fel dysgwr Cymraeg fy hun, rwy'n aml yn darllen eitemau newyddion ac erthyglau ar-lein i ymarfer a gwella fy Nghymraeg ac mae'n rhaid i mi ddibynnu ar gyfieithiadau ar-lein i ddeall brawddegau'n well. Gan fy mod yn diwtor iaith, gwn nad yw cyfieithiadau ar-lein yn gwella eich sgiliau iaith mewn gwirionedd: maent yn rhoi'r 'ateb' yn unig. Dydych chi ddim callach pam y cafodd y frawddeg ei hysgrifennu felly."

Datblygwyd yr offeryn mewn deialog â'r gymuned gyda Dr Piskorski yn defnyddio siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel gwirfoddolwyr i brofi ac adborth cyn eu lansio.

Mae nodweddion Hi-lite yn cynnwys:

  • eiconau â chod lliw ar gyfer categorïau gramadegol,
  • gwybodaeth ramadegol ar gyfer geiriau fel amser, person gramadegol, rhyw ac ati,
  • y gallu i ganfod treigladau Cymraeg mewn brawddegau dethol a darparu'r rheol ramadegol sy'n llywodraethu pob treiglad,
  • cronfa ddata geiriaduron Cymraeg, gyda bron i 500 mil o gofnodion. Mae'r geiriadur yn cynnwys ffurfiau cytseiniol o ferfau a ffurfiau treigledig o eiriau,
  • y gallu i arbed geiriau unigol i restr eirfa. Gellir allforio ac agor y rhestr hon ar ddyfais wahanol neu ar y fersiwn we o hir-iaith Hi-lite.

Mae rhagor o wybodaeth am hir-iaith Hi-Lite ar gael ar wefan Hir-iaith Hi Lite neu ar YouTube.

Rhannu’r stori hon