Ewch i’r prif gynnwys

Dod â chyfansoddwyr du i'r amlwg

18 Hydref 2021

Violinist Randall Goosby posing in front of a piano with students.
Myfyrwyr o'r chwith i'r dde: Jerry Zhuo, Takisha Sargent, Oona Cardew a Lewys Siencyn.

Randall Goosby, yr eiriolwr dros gyfansoddwyr du, yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant ac yn cyfarfod â myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Dechreuodd y feiolinydd y rhagwelir y bydd yn ddod yn seren cerddoriaeth glasurol, Randall Goosby, ei daith o gyngherddau yn y DU yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd. Bu'r Americanwr, sydd newydd lofnodi cytundeb gyda Decca Classics, yn sgwrsio gyda myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn dilyn ei gyngerdd a ffilmiwyd gan y BBC.

Mae Randall, 25, sydd o dras Affricanaidd-Americanaidd a Coreaidd ac sy'n astudio yn Ysgol Cerddoriaeth Julliard yn Efrog Newydd, yn arbenigo mewn dod â gwaith cyfansoddwyr du nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi na'u cynrychioli'n ddigonol i'r amlwg. Mae hyn ar ei fwyaf clir ar ei albwm cyntaf â'r teitl addas 'Roots' neu yn ei ddewis i berfformio 'Adoration' gan y cyfansoddwr du Florence Price a chwaraeodd yn ddiweddar yng nghyngerdd coffa 9/11 yn Efrog Newydd.

Bu'r myfyriwr cerddoriaeth Lewys Siencyn yn sôn am ei brofiad o gwrdd â Goosby ac arwyddocâd ffigur o'r fath mewn cerddoriaeth glasurol.

"Roedd yn wych cael cwrdd â cherddor ifanc mor angerddol dros amrywiaeth ac estyn allan mewn cerddoriaeth glasurol. Roedden ni i gyd yn cytuno na ddylid cyfyngu gweithiau clasurol enghreifftiol i waith y 'cewri Ewropeaidd' fel y'u gelwir a'i bod yn hanfodol taflu goleuni ar y rhai nad ydyn nhw'n cael digon o sylw, y gallai eu cerddoriaeth fod yr un mor effeithiol ac ysgogi meddwl y gwrandäwr."

Cydnabu Dr Cameron Gardner, Darlithydd a Chyd-gyfarwyddwr Ymgysylltu Rhyngwladol yn yr Ysgol Cerddoriaeth, arwyddocâd ymweliad Randall â Chaerdydd wrth drafod sut mae ei waith yn adleisio gwerthoedd yr Ysgol.

"Rwy'n gwybod y bydd y myfyrwyr wedi dysgu rhywbeth arbennig iawn y gallan nhw ei ddefnyddio y tu hwnt i'r hyn maen nhw'n ei wneud yn yr Ysgol Cerddoriaeth. Roedd ethos ac uchelgais Randall o ran amrywiaeth a hygyrchedd mewn cerddoriaeth yn taro tant gan ei fod yn rhywbeth rydyn ni'n anelu at ei wneud yn ein rhaglenni addysgol.

"Mae’r ensemble Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes wedi ehangu ei gwmpas i gynnwys mwy o amrywiaeth dros y blynyddoedd diwethaf, gyda myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i lawer o gyfansoddwyr du o Dde Affrica. A gan fynd yn ôl i gyfnod y dadeni, mae'r Ysgol hefyd wedi ailosod ei dyheadau i amlygu cyfansoddwyr Affro-Brasilaidd fel Jose Garcia.

"Cafodd yr ymdrechion i gofleidio rhywbeth newydd yn y cwricwlwm ac amlygu perfformwyr a chyfansoddwyr heb gynrychiolaeth ddigonol yn yr Ysgol eu hadlewyrchu'n wych yn y sgwrs rhwng Randall a'n myfyrwyr a'r gweithiau a berfformiodd yn ei gyngerdd."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.