Rhwydwaith Ymchwil Logisteg 2021
18 Hydref 2021
Cynaliadwyedd a gwydnwch mewn cyfnod aflonyddgar oedd thema Cynhadledd Rhwydwaith Ymchwil Logisteg 2021 (LRN2021), a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd a Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth y Deyrnas Unedig rhwng 8 a 10 Medi 2021.
Mynychodd 165 o gynrychiolwyr y gynhadledd ar-lein o bob cwr o'r byd, gan ymuno â gweminarau a chyflwyniadau ar yr heriau y mae sefydliadau'n eu hwynebu wrth wneud dewisiadau cynaliadwy a goresgyn aflonyddwch, fel COVID-19.
"Cyfrannodd LRN2021 tuag at foderneiddio LRN drwy gynnwys prif siaradwyr toreithiog iawn o ddiwydiant a'r byd academaidd, a chyfathrebu cryf drwy gydol y flwyddyn i ddenu cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o wledydd. Canolbwyntiodd y gynhadledd ar gadwyni cyflenwi cynaliadwy a gwydn, sef thema amserol o ystyried y pwysau sy’n wynebu diwydiant oherwydd newid yn yr hinsawdd a COVID-19."
Dechreuodd y gynhadledd ar ddydd Mercher yr 8fed drwy ffrydio 19 o weminarau dan arweiniad arbenigwyr academaidd ar bynciau fel effaith COVID-19 ar logisteg a'r gadwyn gyflenwi, logisteg E-Fasnach, yr Economi Gylchol mewn cadwyni cyflenwi bwyd, a Datgarboneiddio Logisteg.
Dilynwyd hyn gan y 5ed gweithdy iLEGO ar Ddiwydiant 4.0, a gynhaliwyd gan yr Athro Maneesh Kumar a Dr Vasco Sanchez Rodrigues. Daeth y gweithdy ag ymarferwyr o'r byd academaidd a diwydiant ynghyd i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau o Ddiwydiant 4.0 ar gadwyni cyflenwi cynaliadwy a gwydn, yn enwedig o ganlyniad i'r pandemig. Rhoddodd yr Athro Janet Godsell (Deon yr Ysgol Busnes ac Economeg ym Mhrifysgol Loughborough) brif gyflwyniad.
Dechreuodd ail ddiwrnod y gynhadledd gyda siaradwyr o Grŵp Ocado, sef Chris Kent, Uwch Arbenigwr Gwella Busnes, a Tim Coughlin, Pennaeth Dadansoddeg ac Optimeiddio. Archwiliodd eu cyflwyniad y ffyrdd y newidiodd galw ac ymddygiad cwsmeriaid dros nos ym mis Mawrth 2020 oherwydd COVID-19 a sut gwnaethant oresgyn yr heriau hyn.
Rhoddodd Gwyneth Fries, Uwch Reolwr Arbenigol, Cynaliadwyedd yn Bain &Company brif anerchiad ar fesur allyriadau cyflenwyr, gan esbonio beth yw allyriadau Cwmpas 3 a pham maen nhw’n bwysig, sut i fesur allyriadau Cwmpas 3, a dulliau o edrych ar reoli allyriadau cyflenwyr.
Yn dilyn hyn, siaradodd yr Athro Joseph Sarkis, Sefydliad Polytechnig Caerwrangon ac Ysgol Economeg Hanken, a'r Athro Alan McKinnon o Brifysgol Logisteg Kühne, am liniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo. Trafodwyd anawsterau modelu'r berthynas lliniaru ac addasu oherwydd ansicrwydd amseru a graddfa effeithiau'r hinsawdd, a'n hagosrwydd at groesi pwyntiau di-droi’n-ôl hinsoddol a geoffisegol.
Wrth ddod â’r diwrnod i ben, defnyddiodd Jenni Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr ESC International, astudiaethau achos i archwilio 'Caffael moesegol – adeiladu cadwyn gyflenwi gynaliadwy a gwydn’. Gorffennodd drwy ofyn "Allwch chi fforddio PEIDIO â gwybod beth sy'n digwydd yn eich cadwyn gyflenwi?"
Cefnogi myfyrwyr PhD
Daeth gweithdy PhD LRN2021 â’r trafodion i ben ddydd Gwener 10 Medi, gyda 56 o gyfranogwyr wedi'u cofrestru, sef y nifer fwyaf erioed.
Hwyluswyd y gweithdy gan Dr Irina Harris, Darllenydd mewn Modelu Logisteg a Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, ynghyd ag Ed Sweeney, Athro Logisteg a Systemau ym Mhrifysgol Aston, Birmingham, Dr Sarah Shaw, Doethur mewn Logisteg a Chyfarwyddwr MBA ym Mhrifysgol Hull, a Dr Graeme Heron, Athro Prifysgol Uwch mewn Rheoli Gweithrediadau a Gwelliant Parhaus ym Mhrifysgol Sheffield.
Roedd y gweithdy wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr doethuriaeth, ac yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr gael cyngor arbenigol gan yr hwyluswyr a rhannu heriau a dysgu gyda'u rhwydwaith cymheiriaid.
"Mae'r amrywiaeth o bynciau a drafodwyd yng nghynhadledd LRN eleni wedi creu argraff wirioneddol arnaf: newid yn yr hinsawdd, ymddygiad, ymdrechion dyngarol, polisi a rheoliadau i enwi ond ychydig. Mae angen i ni gael mwy o'r digwyddiadau trawsddisgyblaethol hyn sy'n dod â nifer o gymunedau at ei gilydd i drafod y themâu pwysig hyn".
Yr Athro Joseph Sarkis, Sefydliad Polytechnig Caerwrangon ac Ysgol Economeg Hanken
Yr Athro Ed Sweeney, Cadeirydd LRN: "Cynlluniwyd cynhadledd flynyddol y Rhwydwaith Ymchwil Logisteg eleni ar sail tri chonglfaen allweddol y strategaeth LRN. Yn gyntaf, arddangosodd ragoriaeth o ran ansawdd ymchwil gyda bron 100 o bapurau wedi'u cyflwyno ar draws y gwahanol ffrydiau arbenigol. Yn ail, hwylusodd LRN2021gydweithio rhwng ymchwilwyr o wahanol sefydliadau a gwledydd gyda chyfraniadau o bob cwr o'r byd.
"Yn bwysicaf oll, efallai, gwelsom fwy o gydweithio rhwng academyddion a busnes yn y gynhadledd LRN hon nag erioed o'r blaen. Yn olaf, mae'r digwyddiad hwn yn ymwneud yn bennaf â chyfathrebu a rhoi llwyfan i'r gymuned ymchwil logisteg ledaenu canfyddiadau o'r radd flaenaf ar draws ystod o feysydd logisteg a chadwyn gyflenwi. Yn hyn o beth, roedd LRN2021 yn llwyddiant ysgubol a dylid canmol y tîm yng Nghaerdydd am ei waith rhagorol wrth drefnu digwyddiad hynod lwyddiannus mewn amgylchiadau heriol."
Y Rhwydwaith Ymchwil Logisteg, sy'n rhan o'r Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth, yw prif rwydwaith y Deyrnas Unedig ar gyfer y rhai sy'n ymwneud ag ymchwil ac ysgoloriaeth ym maes logisteg cadwyn gyflenwi a meysydd cysylltiedig.
Roedd Pwyllgor Trefnu LRN 2021 yn cynnwys:
Emrah Demir (Cyd-gadeirydd), Beverly Francis (Swyddog y Gynhadledd), Allison Glandfield (Rheolwr Digwyddiadau CILT), Irina Harris (Golygydd Gwadd Rhifyn Arbennig a Gweithdy PhD), Angharad Kearse (Swyddog Cyfathrebu), Maneesh Kumar (Cadeirydd iLEGO), Mohamed M. Naim (Cadeirydd Ffrydiau Arbenigol), Lucy Hemmings (Cydgysylltydd Digwyddiadau CILT), Stephen Pettit (Ffrwd Arbennig Cyhoeddi Llyfrau), Vasco Sanchez Rodrigues (Cadeirydd y Gynhadledd), Xiaobei Wang (Cadeirydd Rhaglen y Gynhadledd), Zara Watson (Rheolwr Marchnata CILT)