Llwybr Clawdd Offa yn 50 oed
18 Hydref 2021
Archaeolegwyr yn darganfod darn newydd trawiadol o’r heneb
Mae archaeolegwyr wedi darganfod darn newydd o'r cloddwaith canoloesol sy'n mynd ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a hynny drwy ddefnyddio cymysgedd o dechnoleg fodern ac arsylwadau daear archaeolegol traddodiadol.
Gwnaeth yr Athro Anrhydeddus Keith Ray o Brifysgol Caerdydd, ar y cyd â’i gydweithwyr, ddefnyddio LiDAR (sganio laser) a dronau i ddarganfod darnau newydd o’r llwybr a gwella dealltwriaeth o’i hyd a’i nodweddion hysbys.
Mae darganfyddiadau o’r fath yn golygu, yn lle’r hen gred nad oedd y clawdd erioed wedi ymestyn o Aber Hafren yn y de i Fae Lerpwl yn y gogledd, y ceir gweledigaeth newydd o heneb lawer mwy a mwy pwysig.
Dywedir bod y Brenin Offa o Fersia wedi adeiladu'r clawdd ar ddiwedd yr wythfed ganrif i amddiffyn y deyrnas a oedd wedi bod dan ei rheolaeth am amser maith, ond nid oes gan y strwythur amddiffynnol ddim caerau na thyrau.
"Rydym wedi darganfod ei fod yn dod i ben mewn ffordd hynod drawiadol, yn union fel y mae’n dechrau. Ceir darn newydd wych hefyd sy’n croesi Afon Alun ger yr Wyddgrug. Mae'n dyst i frenin ymffrostgar a oedd eisiau creu argraff”, esboniodd yr Athro Ray.
Ac yntau’n dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed yn 2021, Llwybr Clawdd Offa oedd un o'r cyntaf o 16 Llwybr Cenedlaethol ym Mhrydain, datblygiad ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn rhan o ymgyrch ehangach gan y Llywodraeth i agor cefn gwlad i'r cyhoedd.