Lansio arddangosfa gelf diabetes i nodi pen-blwydd
15 Hydref 2021
Mae arddangosfa gelf yn seiliedig ar ymchwil a ddatblygwyd gan dîm o staff ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi'i lansio yn Ysbyty Prifysgol Llandochau, i nodi can mlynedd ers darganfod inswlin.
Arddangosfa weledol addysgiadol newydd yn Oriel Hearth yr ysbyty yw 'Beth mae Diabetes yn ei Olygu i Ni 2021'. Mae'r Athro F Susan Wong o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad ag aelodau o Grŵp Ymchwil Diabetes Prifysgol Caerdydd ac Artist Preswyl yr ysbyty, Bridget O'Brien, wedi trawsnewid yr oriel sy'n cael ei rhedeg gan y Rhaglen Celfyddydau ac Iechyd yn Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro, mewn i arddangosfa sy'n canolbwyntio ar bwysigrwydd ymchwil i Ddiabetes.
Nod yr arddangosfa yw ennyn trafodaethau am Ddiabetes, a'r hyn mae'n ei olygu i'r bobl sy'n byw gyda'r cyflwr.
Mae'r arddangosfa, sy'n cynnwys cyfranogiad ac ymatebion cymunedol, ffilmiau gwyddoniaeth ac ymchwil glinigol, gwaith celf, ymchwil a gosodwaith, yn gyflawniad cydweithredol ac yn ddathliad o'r holl waith a'r ymroddiad i ddeall Diabetes a'r daith wyddonol ryfeddol gan mlynedd ers darganfod inswlin.
Heuwyd hadau'r prosiect sy'n sail i'r arddangosfa yn 2018, pan welodd yr Athro Wong ddarluniau ar gyfer prosiect llyfrau lle'r oedd Bridget O'Brien yn dangos diddordeb mewn archwilio'r cysylltiadau posibl rhwng gwyddoniaeth a chelf, yn nhermau meddyliau a phrosesau creadigol.
Arweiniodd hyn at drafodaeth ar ffyrdd creadigol y gellid rhannu'r profiad o fyw gyda Diabetes gyda'r cyhoedd, gan herio neu gywiro rhai o'r camsyniadau poblogaidd am y cyflwr ac ar yr un pryd barchu llais unigolion y mae'n effeithio arnynt yn uniongyrchol.
Rhennir yr arddangosfa yn chwe rhan, gan deithio drwy Hanes Diabetes ac Inswlin, gosodwaith cymunedol Beth mae diabetes yn ei olygu i mi, dwy ffilm - gwyddoniaeth sylfaenol ac Ymchwil Glinigol, gwybodaeth Am Diabetes ac ymatebion creadigol gan Bridget O’Brien, Drwy'r Drych a Ffenest i'r Pancreas.
Caiff yr arddangosfa sylw yn Oriel Hearth ar Ddiwrnod Diabetes y Byd ar 14 Tachwedd 2021, a bydd i'w gweld yn Ysbyty Prifysgol Llandochau rhwng 14 Hydref a 15 Tachwedd 2021.
Bydd yr arddangosfa gyfan hefyd ar gael i'w gweld ar-lein gyda rhagor o wybodaeth drwy wefan Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles.