Dyfarnu gwobr Wyddelig bwysig i lyfr gan academydd o Gaerdydd
14 Hydref 2021
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2576650/Thomas-L-Cropped.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Cymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol Iwerddon (PSAI) wedi enwi uwch ddarlithydd mewn gwleidyddiaeth yn enillydd gwobr llyfr Brian Farrell eleni.
Mae Dr Thomas Leahy yn dysgu Gwleidyddiaeth Prydain ac Iwerddon/Hanes Cyfoes yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, ac mae ei lyfr The Intelligence War Against the Irish Republican Army (IRA) yn ystyried a roddodd cudd-wybodaeth Prydain bwysau ar yr IRA i gytuno ar gadoediad yn ystod y 1970au ac yn y pen draw ar gyfaddawd gwleidyddol ym 1998.
Enwyd llyfr Dr Leahy yn enillydd y wobr eleni yng nghynhadledd flynyddol y PSAI a gynhaliwyd yng Ngholeg Prifysgol Dulyn ar 9/10 Hydref 2021.
Ers iddo astudio Gogledd Iwerddon yn y brifysgol yng Ngholeg Kings Llundain, mae Dr Leahy wedi ymchwilio i broses heddwch Gogledd Iwerddon. Mae ei lyfr yn ganlyniad blynyddoedd lawer o gyfweld â chyn garcharorion gweriniaethol Gwyddelig ac aelodau o lu diogelwch y DU ynghyd ag ymchwil i ddeunyddiau archifol Gwyddelig/y DU a chofiannau o bob ochr i'r gwrthdaro. Mae'r llyfr yn gofnod rhanbarthol o'r hyn a ddigwyddodd a chofnod sy'n dangos er bod cudd-wybodaeth y DU wedi cael sawl llwyddiant, y bu iddi ei methiannau hefyd.
Wrth sôn am y wobr, dywedodd Dr Leahy, "Rwyf i wrth fy modd fod gwobr llyfr PSAI Brian Farrell wedi ei dyfarnu i'm cyfrol i. Mae'n wobr nodedig sydd wedi'i dyfarnu i sawl llyfr da dros y blynyddoedd felly mae cael ei derbyn am fy nghyfrol gyntaf yn syndod mawr, ond pleserus iawn.
Unwaith eto hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd i'r ymchwil, o adran Gwleidyddiaeth/Cysylltiadau Rhyngwladol Caerdydd ac academyddion eraill a gynigiodd gyngor ac arweiniad, pobl a roddodd gyfweliadau a staff archifol yn Iwerddon a'r DU a hwylusodd yr ymchwil ar y pwnc heriol hwn. Heb eu cyfraniadau nhw, fe fyddai wedi bod yn amhosibl creu'r gyfrol."
Wrth siarad am lwyddiant Dr Leahy, dywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwobr Llyfr Brian Farrell y PSAI, Dr LiamKneafsey, "Roedd y pwyllgor yn ystyried bod llyfr Dr Leahy yn hanes dadansoddol gafaelgar ac ymchwilgar o'r rhyfel cudd-wybodaeth yng Ngogledd Iwerddon. Roedd y llyfr yn arloesol yn ei ddefnydd o sawl elfen o dystiolaeth helaeth i ystyried gwerth gwahanol esboniadau o'r ffordd y datblygodd y gwrthdaro ac yr esblygodd y broses heddwch, roedd yn effeithiol wrth drafod amrywiol fythau a chamddealltwriaethau cyffredin yn ymwneud â'r gwrthdaro a nodau strategol y chwaraewyr allweddol. Mae wedi'i ysgrifennu mewn arddull trwyadl ond hynod o ddifyr a hygyrch."
Mae'r PSAI yn dyfarnu gwobr flynyddol am y llyfr gorau a gyhoeddwyd ym maes gwyddor wleidyddol gan aelod o Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol Iwerddon. Mae'r gystadleuaeth ar agor i lyfrau un awdur a llyfrau â chyd-awduron a ysgrifennwyd gan aelodau o PSAI ac a gyhoeddwyd yn y flwyddyn flaenorol.
Cafodd Dr Leahy ganmoliaeth uchel yn ddiweddar hefyd gan banel Gwobr Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Dyfernir y wobr bob blwyddyn i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, i gydnabod eu cyflawniadau a'u gwaith yn cyfrannu at brifysgolion Cymru.