Prosiect monitro a modelu Hygrothermol Abaty Caerfaddon wedi’i ddyfarnu i Dr Eshrar Latif
14 Hydref 2021
Cafodd prosiect monitro a modelu hygrothermol Abaty Caerfaddon ei ddyfarnu i arweinydd cwrs MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy, Dr Eshrar Latif, ym mis Medi 2021.
Abaty Caerfaddon yw'r eglwys gadeiriol ganoloesol fawr olaf a adeiladwyd yn Lloegr, ac mae yng nghanol dinas Caerfaddon. Mae rhannau o lawr hanesyddol Abaty Caerfaddon wedi bod yn suddo'n raddol ers blynyddoedd. Yn 2011, fe wnaeth gwaith cloddio ddatgelu wagleoedd enfawr sydd wedi’u hachosi gan filoedd o gladdedigaethau eglwysig yn pydru dros amser, gan wneud y llawr yn ansefydlog.
Mae’r llawr sy’n dymchwel yn Abaty Caerfaddon wedi'i adfer yn ddiweddar ac mae system wresogi arloesol wedi’i gosod hefyd o dan y llawr sy'n cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy o ffynhonnau poeth enwog Caerfaddon. Bydd Dr Eshrar Latif yn monitro ac yn asesu effaith y lleithder sydd wedi cronni o dan y llawr a sut bydd rhai nodweddion o'r llawr a adnewyddwyd yn ei reoli.
Meddai Dr Eshrar Latif:
Bydd yr astudiaeth hygrothermol o Abaty Caerfaddon yn rhan o’r hyn a addysgir yn yr MSc Mega-Adeiladau Cynaliadwy. I gael gwybod rhagor am y rhaglen hon, ewch i dudalennau'r cwrs.