Myfyriwr sy’n astudio’r Gyfraith yn sicrhau un o’r ysgoloriaethau a grëwyd er cof am Stephen Lawrence
9 Tachwedd 2021
Mae myfyriwr sy’n astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd wedi sicrhau ysgoloriaeth Stephen Lawrence gan Freshfields.
Mae Arthur Ddamulira, sy’n 21 oed o Kampala yn Uganda, yn un o 13 o fyfyrwyr a sicrhaodd ysgoloriaeth Stephen Lawrence. Mae ysgoloriaeth o’r fath yn ceisio mynd i’r afael â’r ffaith bod dynion du o gefndiroedd llai symudol yn cael eu tangynrychioli’n ormodol mewn cwmnïau cyfreithiol masnachol mawr a phroffesiynau eraill yn Ninas Llundain.
Yn rhan o’r ysgoloriaeth 15 mis a lansiwyd yn 2013 gan y cwmni cyfreithiol Freshfields Bruckhaus Deringer gyda chymorth Doreen Lawrence, y Farwnes Lawrence o Clarendon OBE, bydd cyfreithwyr a gweithwyr busnes proffesiynol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i Arthur. Bydd yn cymryd rhan mewn gweithdai sgiliau, cael hyfforddiant ymwybyddiaeth fasnachol, cael hyfforddiant cyfweliadau, rhwydweithio, cael cymorth i ymgeisio am swyddi a chael cyngor ar yrfaoedd.
Bydd hefyd yn cael cyfraniad at gostau cyrsiau a chostau sy'n gysylltiedig ag astudio, yn ogystal â chyfweliad contract hyfforddi gwarantedig gyda Freshfields.
Dywedodd Arthur, a symudodd i'r DU y llynedd i ddechrau astudio fel myfyriwr israddedig: “A dweud y gwir, roeddwn yn eithaf emosiynol pan glywais fy mod wedi sicrhau ysgoloriaeth. Mae’n fraint o’r mwyaf, ac rwyf mor ddiolchgar.
“Mae hefyd yn rhywbeth cyffrous iawn, gan fy mod yn cael y cyfle i wireddu dyhead i weithio ym maes bancio a chyllid yn Llundain.”
Cafodd Arthur ei eni, ei fagu a'i addysgu yn Uganda yn Nwyrain Affrica, lle'r oedd ei rieni'n rhedeg busnes bach yn gwerthu eitemau cartref.
“Roedd yr ysgol yn anodd ar adegau, ond cefais fy ysbrydoli gan fy rhieni i weithio’n galed oherwydd pa mor galed y buont yn gweithio i anfon fy mrodyr, fy chwiorydd a minnau i’r ysgol,” meddai.
Oherwydd yr agwedd hon, gwnaeth Arthur yn well na’r disgwyl yn yr ysgol a thu allan iddi, a daeth yn un o’r disgyblion gorau yn ei ddosbarth. Gwnaeth arwain rhaglen a oedd yn annog plant digartref i rannu eu profiadau drwy farddoniaeth, yn ogystal â sefydlu ei fusnes ar-lein ei hun.
Dywedodd Annette Byron, un o bartneriaid Freshfields a sylfaenydd ysgoloriaeth Stephen Lawrence: “Mae’r dalent ac ymrwymiad yr ysgolorion rydym yn eu derbyn yn parhau i’m hysbrydoli. Mae'r teimlad hwn yn arbennig o berthnasol, o ystyried bod llawer o fyfyrwyr wedi wynebu cyfnod eithriadol o anodd lle mae llai o ddysgu wyneb-yn-wyneb yn ystod pandemig COVID-19 wedi golygu bod y rhai ar ‘ochr anghywir’ y gagendor digidol wedi wynebu hyd yn oed fwy o heriau a rhwystrau i gyfleoedd.
Gwnaeth Arthur sicrhau’r ysgoloriaeth ar ôl cael ei enwebu gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a bod drwy broses ddethol drylwyr.
Dywedodd yr Athro Stewart Field, Pennaeth y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth: “Rydym yn hynod falch o Arthur am sicrhau'r ysgoloriaeth bwysig hon.
“Rwy'n edrych ymlaen at weld beth mae Arthur yn ei gyflawni yn rhan o’r ysgoloriaeth ac yn y dyfodol.”