Cyfnewid Gwybodaeth ac Arfer Gorau ar Draws Ffiniau 2021
12 Hydref 2021
Mae'n bleser gan Cymunedau Arfordirol yn Ymaddasu Gyda'i Gilydd (CCAT) gyhoeddi ein hail ddigwyddiad rhithwir Cyfnewid Gwybodaeth ac Arfer Gorau ar Draws Ffiniau ar 19, 20 a 21 Hydref 2021.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i rannu gwybodaeth a phrofiad ym maes rheoli’r arfordir, ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a lliniaru. I ddarganfod mwy am y digwyddiad hwn ac archebu'ch lle am ddim, ewch i www.ccatproject.eu
Mae cymunedau arfordirol yn aml ar flaen y gad o ran effeithiau newid yn yr hinsawdd ac yn gynyddol mae angen iddynt ystyried sut i ymaddasu, dod yn fwy gwydn, a delio â phenderfyniadau cynllunio rheoli’r arfordir. Mae CCAT yn gweithio i gefnogi cymunedau arfordirol yn Sir Benfro (Cymru) a Fingal (Iwerddon) i ddeall effaith newid yn yr hinsawdd yn yr ardaloedd hyn ac archwilio sut y gall y cymunedau hyn ymaddasu. Mae CCAT yn defnyddio offer ar-lein arloesol fel Minecraft, animeiddio, realiti rhithwir ac estynedig, a phrosiectau mapio cymunedol i gefnogi cymunedau i ddod yn fwy gwydn i newid yn yr hinsawdd.
Gan dynnu ar adborth o ddigwyddiad cyntaf CCAT, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arfer Gorau ar Draws Ffiniau y llynedd, roedd yn amlwg bod awydd i ddysgu o'r hyn y mae eraill yn ei wneud ac i adeiladu ar arfer gorau presennol mewn polisi a rheoli ar gyfer rheoli’r arfordir a newid yn yr hinsawdd. Bydd yr ail ddigwyddiad hwn yn dwyn ynghyd ystod amrywiol o ymarferwyr ac academyddion sydd ag arbenigedd mewn polisi, rheoli’r arfordir, ymaddasu i newid yn yr hinsawdd, ymgysylltu â'r gymuned a mwy. Ymdrinnir ag ystod eang o bynciau, megis rôl technoleg wrth ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a gwydnwch, datrysiadau ar sail natur, ymgysylltu â'r gymuned mewn rheoli’r arfordir, a byddwn yn clywed gan gymunedau sy'n profi effeithiau newid yn yr hinsawdd ar hyn o bryd.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Cymru, Julie James, “Mae Newid Hinsawdd yn un o heriau mawr ein hoes ac wrth wraidd gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae prosiect CCAT, gyda chefnogaeth Cronfeydd Ewropeaidd gwerth £1.2M trwy Raglen Cydweithrediad Iwerddon-Cymru, yn defnyddio amrywiaeth o offer cyfathrebu ac ymgysylltu arloesol gyda chymunedau arfordirol yn Sir Benfro a Fingal i ddatblygu eu dealltwriaeth o effaith newid yn yr hinsawdd ac i annog rhannu cyfrifoldeb am sut maen nhw'n rhyngweithio â'r amgylchedd. Mae'r gynhadledd hon yn gyfle gwych i drafod a rhannu eu harfer gorau, ond hefyd i ddysgu gan eraill.”
Cyn ail ddigwyddiad rhannu gwybodaeth rhithwir CCAT, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hinsawdd a Chyfathrebu, Iwerddon, Eamon Ryan TD, “o ystyried bod bron i hanner poblogaeth Iwerddon yn byw yn agos at ei harfordiroedd, ni fu mynd i’r afael â gwydnwch yr arfordir a pharatoi ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd erioed mor bwysig. Yn fy adran i, mae mapio newid arfordirol a bregusrwydd arfordirol Arolwg Daearegol Iwerddon yn tynnu sylw at ardaloedd lle mae erydiad yn digwydd ac yn debygol o ddigwydd, wrth i ni olrhain lefelau'r môr yn codi a mwy o achosion o stormydd. Mae Arolwg Daearegol Iwerddon hefyd yn cymryd rhan yn Rhaglen Interreg Iwerddon-Cymru CHERISH, sy'n codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol. Mae gweithredu, cefnogaeth ac arweinyddiaeth y llywodraeth, sy'n cael ei gyflawni o dan y Fframwaith Addasu Cenedlaethol trwy Gynlluniau Ymaddasu Sectoraidd a Lleol, yn hanfodol ar gyfer gwydnwch yn yr hinsawdd. Ochr yn ochr â gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth, bydd hyn yn grymuso cymunedau arfordirol i amddiffyn eu hunain a'u heiddo rhag risgiau newid yn yr hinsawdd.”
Ychwanegodd Karen Foley, Uwch Swyddog Cyfrifol gyda CCAT a Phennaeth Pensaernïaeth Tirwedd, UCD “wrth i’r argyfwng hinsawdd ddwysau, mae’r brys o adeiladu gallu yng nghymunedau arfordirol Môr Iwerddon i ymaddasu i’r effeithiau canlyniadol yn fwy nag erioed. Pwysleisiodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yr angen i weithredu ar unwaith. Mae Cynllun Gweithredu Hinsawdd 2021 llywodraeth Iwerddon yn cydnabod pwysigrwydd ymgynghori cyhoeddus, ac mae’n amserol bod y gynhadledd CCAT hon sydd ar ddod yn tynnu sylw at arfer gorau rhyngwladol ac offer arloesol i ymgysylltu ag ystod amrywiol o ddinasyddion arfordirol wrth hyrwyddo cyd-greu datrysiadau ymaddasu i newid yn yr hinsawdd.”
Dywedodd Joshua Beynon, Cadeirydd y Gweithgor Newid yn yr Hinsawdd yng Nghyngor Sir Penfro “er gwaethaf cyrff cyhoeddus yn delio â Coronafeirws dros y 18 mis diwethaf, mae’r dasg enfawr o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn dal i fodoli, ac mae cymunedau arfordirol yn dyst i effeithiau o’r fath ar eu stepen drws bob dydd. Mae'r gynhadledd hon yn gyfle gwych i siarad am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn Sir Benfro ond hefyd i ddysgu gan eraill yng Nghymru, Iwerddon a gweddill Ewrop ar y ffordd orau i weithio gyda'n gilydd i rannu arfer gorau."
I ddarganfod mwy am y digwyddiad hwn ac archebu'ch lle am ddim, ewch i www.ccatproject.eu
Ynglŷn â Cymunedau Arfordirol yn Ymaddasu Gyda'i Gilydd (CCAT)
Ariennir y prosiect Cymunedau Arfordirol yn Ymaddasu Gyda'i Gilydd (CCAT) yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Cydweithrediad Iwerddon Cymru 2014-2020 gyda phartneriaid yn Iwerddon (Cyngor Sir Fingal, Coleg Prifysgol Dulyn a MaREI/Coleg Prifysgol Corc) ac yng Nghymru (Prifysgol Caerdydd, Fforwm Arfordir Sir Benfro a Phorthladd Aberdaugleddau).
About Coastal Communities Adapting Together (CCAT)
The Coastal Communities Adapting Together (CCAT) project is part-funded by the European Regional Development Fund through the Ireland Wales Cooperation Programme 2014-2020 with partners in Ireland (Fingal County Council, University College Dublin and MaREI/University College Cork) and in Wales (Cardiff University, Pembrokeshire Coastal Forum and the Port of Milford Haven).
For further information, contact Pauline Power via email at pauline.power@ucd.ie or by calling 085 1793005.