Cerdd ryfeddol i fenyw ryfeddol
11 Hydref 2021
Cynfyfyriwr yn talu teyrnged farddonol mewn digwyddiad i ddadorchuddio cerflun o’r athrawes arloesol Betty Campbell
Mae'r bardd Taylor Edmonds, a raddiodd gydag MA mewn Ysgrifennu Creadigol (2020), wedi ysgrifennu a pherfformio ei cherdd a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer digwyddiad i ddadorchuddio’r cerflun cyntaf o Gymraes go iawn, gydag enw.
Darllenodd Taylor ei cherdd When I Speak of Bravery o flaen teulu Campbell a thorfeydd enfawr wrth y cerflun mawr 4 metr yn Sgwâr Canolog Caerdydd.
Roedd y seremoni hefyd yn cynnwys areithiau gan arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, ac Athro Hanes Caethwasiaeth ym Mhrifysgol Bryste, Olivette Otele, negeseuon fideo gan enwogion o Gymru, gan gynnwys yr actorion Rakie Ayola a Michael Sheen, a pherfformiad o hoff gân Campbell gan Oasis One World Choir.
Wrth siarad ar ôl y digwyddiad dadorchuddio, dywedodd Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Taylor Edmonds:
"Braint oedd cael y cyfle i wneud darlleniad yn nigwyddiad dadorchuddio cofeb Betty Campbell ac i fod yn rhan o ddiwrnod mor bwysig i Gymru. Cefais fy magu yn y Barri ac roeddwn i wedi clywed am Betty a’i gwaith ysbrydoledig, ac am ei heffaith ar ddysgu hanes pobl dduon yng Nghymru.
Roedd cynrychioli gwir bersonoliaeth Betty yn bwysig i mi, felly treuliais i lawer o amser yn gwneud gwaith ymchwil, yn gwylio fideos o Betty, ac yn siarad â'i merch, Elaine, i ddod i'w hadnabod yn well. Mae'r ymateb gan deulu Betty, ynghyd â’i ffrindiau a’i chyn-ddisgyblion, wedi creu argraff arna i, ac rwy'n cael fy atgoffa o ba mor bwerus y gall barddoniaeth fod. Rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy o bobl dduon yng Nghymru yn cael eu dathlu fel hyn."
Maepennaeth ysgol du cyntaf Cymru, Betty Campbell, yn adnabyddus am baratoi'r ffordd ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y brifddinas a thu hwnt, ac roedd hi’n addysgu yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Butetown am 28 mlynedd.
Mae'n cael ei chofio am roi diwylliant pobl dduon ar y cwricwlwm, ac roedd hi’n addysgu plant am gaethwasiaeth, apartheid, a chyfraniad pobl groenliw at gymdeithas Prydain. Bu hefyd yn hyrwyddo amlddiwylliannedd yn ei rôl fel Cynghorydd Butetown.
Mae'r syniad o greu’r cerflun cyntaf o Gymraes go iawn wedi bod ar y gweill ers pum mlynedd, gyda'r sefydliad dielw Monumental Welsh Women yn hyrwyddo'r broses ail-gydbwyso i gydnabod 'arwresau cudd' y wlad.
Daeth Mrs Campbell ar frig pleidlais gyhoeddus o blith 50 o fenywod hanesyddol o Gymru i fod y Gymraes gyntaf i gael ei dathlu mewn cerflun cyhoeddus yng Nghymru.
Cynhaliwyd y digwyddiad dadorchuddio ychydig cyn Mis Hanes Pobl Dduon, sy’n cael ei ddathlu drwy gydol mis Hydref.
Mae Prifysgol Caerdydd yn arloesi gydag addysgu Ysgrifennu Creadigol yn y DU, ac mae'n parhau i gynnig graddau israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.