Skin lipids found altered in patients with psoriasis
6 Hydref 2021
Canfod lipidau croen wedi'u newid mewn cleifion â psoriasis
Canfuwyd bod cyfres o lipidau croen a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn cael eu newid mewn cleifion sy'n dioddef gyda psoriasis, yn ôl astudiaeth dan arweiniad Dr Chris Thomas yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.
Amlygwyd yr ymchwil, a gynhaliwyd gan ddefnyddio sbectrometreg màs, mewn papur diweddar a gyhoeddwyd yn y Journal of Lipid Research. Ymddangosodd hwn mewn erthygl gan Gymdeithas America ar gyfer Biocemeg a Bioleg Foleciwlaidd (American Society for Biochemistry and Molecular Biology) heddiw.
Mae psorasis yn glefyd croen sydd, yn ôl Adroddiad Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar Psoriasis (2016), yn effeithio ar o leiaf 100 miliwn o bobl ledled y byd. Mae'n datblygu'n fwyaf aml mewn oedolion o dan 35 oed a gall achosi darnau dolurus o groen coch sy’n cosi. Mae hyn yn gallu effeithio'n ddifrifol ar ansawdd bywyd rhai cleifion.
Dywed Dr Thomas, 'Ar hyn o bryd does dim modd gwella psoriasis. Gallai'r biomarcwyr posibl a nodwyd trwy'r ymchwil hwn gael eu targedu gan driniaethau mwy effeithiol yn y tymor hir. Bydd ymchwil bellach yn archwilio rôl y lipidau hyn yn natblygiad psoriasis ac yn ffisioleg y croen yn ehangach.'
Manylir ar ganfyddiadau'r astudiaeth hon mewn papur yn y Journal of Lipid Research Lipidomic and transcriptional analysis of the Linoleoyl-omega-Hydroxyceramide biosynthetic pathway in human psoriatic lesions