Tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yn cyfrannu at bennod ar gyllid llywodraeth leol yn yr IFS Green Budget
7 Hydref 2021

Mae gwaith DCC yn cael lle blaenllaw ym mhennod ddiweddaraf blwyddlyfr Green Budget yr Institute for Fiscal Studies sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Mae'r bennod, sy'n trafod effaith COVID-19 a’r cynlluniau arfaethedig i ddiwygio gofal cymdeithasol, yn cynnwys dadansoddiad newydd o'r cymorth a roddwyd i gynghorau Cymru dros y deunaw mis diwethaf.
Yn 2020-21, darparodd Llywodraeth Cymru £478m (£151 y pen) i ariannu gwariant ar wasanaethau ar wahân i addysg yn sgil COVID-19, yn ogystal â chyfanswm o £146m (£46 y pen) o iawndal am golledion incwm y tu hwnt i drethi.
Er bod y cyllid a gafodd ei neilltuo i’r cynghorau i reoli achosion ac olrhain cysylltiadau yn is nag ydoedd yn Lloegr, cafodd hyn ei wrthbwyso gan fwy o gymorth ar gyfer elfennau eraill – yn fwyaf nodedig, trefniadau iawndal mwy hael ar gyfer colledion incwm cynghorau a thaliadau untro i weithwyr gofal.
Mae'r bennod hefyd yn asesu rhagolwg cyllidol cynghorau Cymru dros y tair blynedd nesaf. Mae'n canfod y bydd angen i wariant awdurdodau lleol gynyddu o fwy na £1.1 biliwn rhwng 2019-20 a 2024-25 i gynnal yr un lefel o wasanaethau. Mae hyn yn gynnydd o 16.7% (sy'n cyfateb i 3.1% bob blwyddyn).
Dywedodd Cian Siôn, ymchwilydd ar brosiect Dadansoddi Cyllid Cymru, ac un o awduron y bennod:
"Er bod disgwyl i gyllideb Cymru gynyddu mewn termau real dros y tair blynedd nesaf, mae'r galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol, a phwysau sylweddol ar rannau eraill o gyllideb Llywodraeth Cymru yng nghysgod COVID-19 yn golygu bod y rhagolwg ar gyfer llywodraeth leol yn parhau i fod yn un heriol. Bydd unrhyw arian ychwanegol a gaiff ei glustnodi ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yn sgil yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd yn debygol o gael ei ddefnyddio i ariannu cyfrifoldebau newydd yn hytrach nag i lleddfu'r pwysau a’r galw presennol.
"Rydym ni eisoes yn gwybod fod unrhyw newidiadau i’r grantiau a ddaw o’r llywodraeth, a thrwy hynny, cynlluniau gwariant Llywodraeth y DG, yn cael mwy o effaith ar gynghorau Cymru na chynghorau Lloegr. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd yr Adolygiad Gwariant sydd ar y gweill wrth benderfynu a fydd awdurdodau lleol Cymru yn gallu cwrdd â phwysau ariannu yn y dyfodol."