Ymchwilwyr yn uno bioleg synthetig gyda nanowyddoniaeth yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau
6 Hydref 2021
Mae Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR) yn fygythiad gwirioneddol i gymdeithas, felly mae angen dulliau newydd ar gyfer canfod ei achos
Mae AMR yn digwydd pan fydd bacteria'n esblygu dros amser ac nad ydynt bellach yn ymateb i feddyginiaeth wrthfiotig, gan wneud salwch yn anoddach i'w drin ac yn arwain at risg uwch o farwolaethau.
Mae ymchwilwyr Ysgol y Biowyddorau, Dr Ben Bowen, Ms Rebecca Gwyther a Dr Dafydd Jones wedi cymryd cam tuag at fynd i’r afael â’r mater hwn gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol y Frenhines Mary, Llundain, trwy briodi bioleg synthetig â nanowyddoniaeth.
Mae'r tîm yn gallu canfod ychydig o foleciwlau mewn grŵp ensymau, sef y prif gyfrannwr at wrthwynebiad bacteriol i wrthfiotigau. Mae'r ensymau hyn, sy'n cael eu galw'n beta-lactamasau, yn dadelfennu'r teulu penisilin o wrthfiotigau - y gwrthfiotigau a ddefnyddir fwyaf a'r rhai mwyaf defnyddiol.
Fe wnaethant ddefnyddio protein o'r enw BLIP - “gwrthgorff” cyffredinol ar gyfer llawer o wahanol fathau o beta-lactamasau - yr oeddent yn ei gysylltu â nanotiwbiau carbon i ganfod ei bresenoldeb. Pan ddarganfuwyd moleciwlau beta-lactamas, fe wnaethant sbarduno newid amser real mewn cerrynt trydanol ar raddfa'r nanomedr.
Yn hanfodol, roedd yr ymateb trydanol yn dibynnu ar wyneb y beta-lactamas sy'n dod i mewn, a allai o bosibl ganiatáu nodi gwahanol fersiynau o'r ensym sydd â gallu diraddio gwrthfiotig gwahanol, gan arwain at driniaeth wrthfiotig fwy effeithiol.
Dywedodd Dr Jones: “Mae gan fioleg peirianneg at ddefnydd y tu allan i’r cyd-destun biolegol oblygiadau enfawr i dechnoleg y dyfodol. Yma rydym wedi dangos sut y gellir cymhwyso hyn i gynhyrchu systemau ar y raddfa nanomedr sy'n gallu canfod achosion AMR o fewn ychydig funudau a gyda sensitifrwydd uchel."
Cyhoeddwyd y canfyddiadau yn y cyfnodolyn cemeg uchel ei barch Angewandte Chemie Int Ed.