Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o’r DRi yn ymddangos yn yr ymgyrch fideo 'Being Black in Physiology'

4 Hydref 2021

Dayne Beccano-Kelly
Photo credit: Dayne Beccano-Kelly at the Haydn Ellis building, Cardiff University. Photograph: Francesca Jones/The Observer

Mae ffisiolegydd o'r Sefydliad Ymchwil Dementia (DRI) wedi cael sylw yn ymgyrch ddiweddaraf y Gymdeithas Ffisiolegol i godi ymwybyddiaeth o ba mor fach yw nifer yr academyddion Du sydd mewn swyddi uwch mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU.

Mae Dr Dayne Beccano-Kelly, Cymrawd Arweinydd y Dyfodol Ymchwil ac Arloesi’r DU sy’n gweithio yn yr Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, wedi bod yn gysylltiedig â chreu fideo newydd sy’n pwysleisio pwysigrwydd amrywiaeth mewn ymchwil ffisiolegol.

Mae'r fideo, a gynhyrchwyd gan y Gymdeithas Ffisiolegol, yn cyfweld â thri academydd Du am eu profiadau yn y byd academaidd, ac yn tynnu sylw at yr ymchwil wych y maent yn ei gwneud i wella ein dealltwriaeth o sut mae'r corff yn gweithio o ran iechyd a chlefydau.

Dywedodd Dr Beccano-Kelly, “Yn y DU, mae llai nag 1% o athrawon prifysgol yn Ddu. Wrth i mi symud trwy'r byd academaidd, dechreuais sylwi bod nifer llai o academyddion yn Ddu ar fy lefel neu'n uwch yn y sefydliadau a'r adrannau roeddwn i'n rhan ohonynt."

“Mae hi bob amser yn braf gweld bod y llwybr rydych chi'n dyheu amdano yn bosibl ei ddilyn ac un o'r pethau y penderfynais ei wneud, ar ôl gweld yn bersonol pa mor fach oedd nifer yr academyddion Du mewn swyddi uwch, oedd penderfynu fy mod i eisiau bod yn un fy hun. Roeddwn i eisiau bod mewn sefyllfa i helpu unigolion eraill.”

Mae ymchwil Dr Beccano-Kelly yn canolbwyntio ar glefyd Parkinson, sef anhwylder niwroddirywiol sy'n cael ei achosi pan gollir niwronau yn yr ymennydd sy'n rheoli symud. Nod ei waith labordy yn y DRI yw adnabod arwyddion cynnar o ddirywiad sy'n gysylltiedig â'r clefyd, gan ganolbwyntio ar y cyfathrebu trydanol rhwng niwronau.

“Mae’r offer yn y DRI yma ym Mhrifysgol Caerdydd yn ein galluogi i ddeall yr hyn sy’n mynd o’i le gyda’r cyfathrebu rhwng celloedd yr ymennydd. Yn ogystal â nodi pa newidiadau sy'n digwydd yn y broses gyfathrebu hon, mae fy ymchwil yn ceisio darganfod pryd mae’n mynd o'i le, rhywbeth nad yw’n cael ei ddeall yn iawn o gwbl. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â'm tîm wrth i ni ymdrechu i wella bywydau pobl sy'n byw ag anhwylderau niwroddirywiol.

“Hoffwn ddiolch i’r Gymdeithas Ffisiolegol am fy nghynnwys ochr yn ochr â gwyddonwyr mor ragorol â Dr Sandra Agyapong-Badu o Brifysgol Birmingham a Dr Priscilla Day-Walsh o Quadram Institute Bioscience yn Norwich.”

“Rhaid i ni barhau i ymdrechu i gael mwy o amrywiaeth a chynhwysiant yn y byd academaidd sy'n hanfodol i wella darganfyddiadau a rhagoriaeth wyddonol.”

Mae'r Gymdeithas Ffisiolegol yn dod â dros 4000 o wyddonwyr ynghyd o dros 60 o wledydd. Ers ei sefydlu ym 1876, mae ei haelodau wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at wybodaeth systemau biolegol a thrin afiechyd.

Cynhyrchodd y Gymdeithas Ffisiolegol y fideo 'Being Black in Physiology: Diversity for Scientific Excellence’ sydd ar gael ar-lein ac y gellir ei weld yma: www.physoc.org/diversity

Rhannu’r stori hon