Protected Development Time for Community Pharmacy Professionals
29 Medi 2021
Mae fferyllfeydd cymunedol yn amgylchedd hynod o brysur gyda gofynion uchel ac yn aml heb neilltuo amser penodol ar gyfer datblygu.
Mae ymchwil flaenorol yn egluro’r heriau y mae fferyllwyr mewn lleoliadau cymunedol yn eu hwynebu wrth ddilyn datblygiad personol (DPP) a hyfforddiant. Mewn ymateb, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) wedi datblygu peilot newydd sy'n cynnig tri model o neilltuo amser penodol ar gyfer hunanddatblygiad fferyllwyr cymunedol dros gyfnod o 12 mis, ac mae pob un ohonynt yn cynnig cyfleoedd datblygu ychydig yn wahanol:
Model 1: Amser Penodol ar gyfer Datblygu yn Unig - hyd at 12 diwrnod i ddilyn DPP ar gyfer datblygu yn erbyn fframwaith cydnabyddedig a drefnir ganddynt hwy eu hunain.
Model 2: Amser Penodol ar gyfer Datblygu gyda Mewnbwn Mentor - hyd at 12 diwrnod o amser wedi’i neilltuo sy'n cynnwys 6 diwrnod o gefnogaeth 'ymarferol' gan fentor neu oruchwyliwr addysgol.
Model 3: Amser Penodol ar gyfer Cael Hyfforddiant - hyd at 15 diwrnod y gellir eu defnyddio i ymgymryd â chymwysterau sy'n dwyn credyd.
Mae CUREMeDE wedi'i gomisiynu i werthuso'r peilot er mwyn asesu pa mor dda mae'r gwahanol fodelau yn cefnogi gweithwyr fferyllol proffesiynol i gael gwybodaeth a sgiliau ychwanegol ar gyfer darparu gwasanaethau neu ddangos eu dilyniant o fewn fframwaith cydnabyddedig. Bydd y gwerthusiad yn cyflwyno tystiolaeth fanwl o ganlyniadau'r tri model a fydd yn cael eu defnyddio i lywio cyfeiriad polisïau yn y dyfodol a Chynllun Hyfforddi a Chomisiynu Addysg y GIG.
Y bwriad yw y bydd canfyddiadau'r gwerthusiad yn helpu i lywio opsiynau ar gyfer cefnogi'r newid i Safonau Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol (IETS) newydd GPhC ar gyfer fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol.
Disgwylir ein hadroddiad terfynol yn Haf 2022.