Datgelu effaith dofi ar faint llygaid eogiaid yr Iwerydd
29 Medi 2021
Dros 15 cenhedlaeth o fridio eogiaid mewn caethiwed ar gyfer bwyd, mae eogiaid sy’n cael eu ffermio wedi datblygu llygaid llai nag eogiaid gwyllt, a allai leihau eu gallu i oroesi wrth ddianc o gaethiwed, ac achosi canlyniadau negyddol i’w hepil.
Mae Dr William Perry, ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Ymchwil Dŵr, yn rhan o dîm rhyngwladol o ymchwilwyr sy’n ymchwilio i faint llygaid pysgod sy’n cael eu ffermio. Bu’r tîm yn bridio eogiaid o gefndir wedi’i ffermio, cefndir gwyllt a chefndir hybrid (ffermio a gwyllt) ar yr un pryd o wyau mewn tanciau yn y Sefydliad Ymchwil Forol, Norwy, a’r Sefydliad Morol, Iwerddon, ac yn Afon Srahrevagh, Iwerddon. Yna mesurwyd maint llygaid yng nghyfnodau dŵr croyw a dŵr heli bywyd yr eogiaid.
Yn yr holl arbrofion mewn tanciau yn Norwy ac Iwerddon, canfu’r ymchwilwyr fod gan y pysgod a ffermiwyd lygaid llai mewn perthynas â maint y corff, o’u cymharu â’u cymheiriaid gwyllt. Er eu bod wedi cael eu magu o dan yr un amodau yn union, cafwyd bod gan bysgod hybrid faint llygaid canolig. Yn ddiddorol, o fagu’r pysgod yn yr afon, ni welwyd gwahaniaethau ym maint llygaid eogiaid gwyllt a rhai wedi’u ffermio, a allai olygu bod y pysgod llygaid bach a ffermiwyd yn methu goroesi yn y gwyllt.
Yn ôl Dr William Perry: 'Roedd yn gyffrous darganfod y ffaith bod maint llygaid pysgod a ffermiwyd yn lleihau’n enetig, ond roedd y ffaith nad oedd hyn i’w weld ymhlith eogiaid a fagwyd yn yr afon yn ddiddorol dros ben.'
Nid yw’n hysbys eto pa elfen o ffermio pysgod a allai fod wedi achosi i faint y llygaid leihau fel hyn, ond gallai ymwneud â’r ffaith bod gofynion egni tyfu llygaid yn ddrud iawn, a’r ffaith nad oes angen llygaid da ar eogiaid i hela na dianc rhag ysglyfaethwyr mewn caethiwed. Mae bwyd yn ymddangos yn awtomatig, a chedwir ysglyfaethwyr allan.
Esboniad arall posibl fyddai bod llygaid llai yn ymateb i straen, neu i’r goleuadau artiffisial a ddefnyddir wrth ddyframaethu. Gallai’r ffaith bod yr anifeiliaid hyn yn cael eu magu mewn tanciau lle gallen nhw brofi lefelau annaturiol o uchel o olau artiffisial olygu bod llygaid llai, llai sensitif i olau, yn fuddiol.
Mae degau o filiynau o eogiaid a ffermiwyd wedi dianc i’r gwyllt ers y 1970au, ac maen nhw wedi bod yn bridio gyda physgod gwyllt i ffurfio pysgod hybrid. Mae’r canfyddiadau newydd yn amlygu’r risgiau y gallen nhw eu hwynebu yn y gwyllt. Mae Dr Joshka Kaufmann, ymchwilydd ôl-ddoethurol yng Ngholeg y Brifysgol, Corc, a chyd-arweinydd ar yr ymchwil yn esbonio: ‘Mae pysgod sy’n dianc o ffermydd yn fygythiad i integriti genetig poblogaethau Eogiaid yr Iwerydd ac yn cael effaith ar niferoedd y boblogaeth yn y tymor hir.'
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y cyhoeddiad llawn yma neu cysylltwch â Dr William Perry ar perryw1@cardiff.ac.uk.