Ewch i’r prif gynnwys

‘Mabwysiadu Gyda’n Gilydd’ yn ennill gwobr nodedig yn y DU

28 Medi 2021

Mae partneriaeth sy'n rhoi plant sy'n aros hiraf i gael eu mabwysiadu yng Nghymru wedi ennill gwobr nodedig yn y DU am ei heffaith gymdeithasol.

Roedd cydweithrediad Mabwysiadu Gyda'n Gilydd yn fuddugol yng Ngwobrau Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) blynyddol Innovate UK.

Daeth y prosiect KTP â Chymdeithas Plant Dewi Sant - sef arbenigwr ym maes mabwysiadu sy'n ymroddedig i ddod o hyd i deuluoedd ar gyfer plant sy'n agored i niwed ledled Cymru - Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, ac Ysgol Busnes Caerdydd ynghyd, dan gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Roedd y KTP yn caniatáu i Gymdeithas Plant Dewi Sant ymuno ag arbenigedd academaidd Caerdydd, gan drosi canfyddiadau ymchwil Astudiaeth Garfan Fabwysiadu Cymru yn fethodoleg ymarferol i hwyluso mabwysiadu plant â blaenoriaeth.

Drwy gasglu arbenigedd gan seicolegwyr clinigol a gweithwyr cymdeithasol therapiwtig, mae Mabwysiadu Gyda'n Gilydd wedi gwella bywydau llawer o blant drwy ddarparu ymyrraeth gynnar, cynyddu lleoliadau nifer y plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu a modelau comisiynu newydd.

Croesawodd Prif Weithredwr Cymdeithas Dewi Sant, Wendy Keidan, Yr Athro Katherine Shelton o Ysgol Seicoleg Caerdydd, a Chyswllt KTP Coralie Merchant, y wobr ar y cyd.

'Mae pawb yn falch iawn o gael cydnabyddiaeth am yr hyn a fu'n fenter wirioneddol gydweithredol yn gweithio gyda'r tîm a chydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a phartner therapiwtig o'r cychwyn cyntaf. Y tu ôl i'r gwaith caled o greu gwasanaeth Mabwysiadu Gyda'n Gilydd sy'n cael ei lywio'n therapiwtig i ddiwallu anghenion teuluoedd sy'n mabwysiadu, mae gweledigaeth gyffredin o wneud gwahaniaeth i fywydau plant. Hoffem ni ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth er mwyn helpu i wireddu'r weledigaeth hon."

Ar ôl cael ei chyflwyno am y tro cyntaf yn 2020, mae'r wobr Effaith Gymdeithasol yn cydnabod effeithiau ehangach KTP, gan gynnwys prosiectau sydd wedi cyflwyno budd cymdeithasegol, cymdeithasol neu amgylcheddol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Hoffwn longyfarch Cymdeithas Plant Dewi Sant a Phrifysgol Caerdydd am y llwyddiant gwych hwn. Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn cynnig atebion gwirioneddol i broblemau anodd i ddiwydiant, ac mae'r wobr hon yn cydnabod eu gallu i helpu i ddatrys problemau cymdeithasegol hefyd drwy gael effaith fyd-eang go iawn a gwella bywydau pobl yn wirioneddol. Yng Nghymru mae diwydiant a'r byd academaidd yn parhau i gydweithio mor gadarnhaol er budd cenedlaethau'r dyfodol a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi hynny."

Mae cynllun partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth (KTP) y DU yn helpu busnesau yn y DU i arloesi a thyfu. Mae'n gwneud hyn trwy eu cysylltu â sefydliad academaidd neu ymchwil a myfyriwr graddedig.

Mae KTP yn galluogi sefydliad i ddod â sgiliau newydd a meddwl academaidd i mewn i gyflawni prosiect arloesi strategol penodol trwy bartneriaeth sy'n seiliedig ar wybodaeth.

Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes rhagorol o ddatblygu KTPs arobryn.

Dywedodd y Rheolwr Busnes Paul Thomas: "Llongyfarchiadau mawr i bawb a gyfrannodd at ennill y wobr hon. Rydym wrth ein bodd bod Innovate UK unwaith eto wedi cydnabod gallu Caerdydd i ddarparu partneriaethau rhagorol sydd â gwerth enfawr ac sy'n arwain at effaith sylweddol."

I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygu partneriaethau gyda Phrifysgol Caerdydd, cysylltwch â ThomasP7@caerdydd.ac.uk

[Cyfweliadau Enillwyr]

Rhannu’r stori hon