Mae Myfyrwyr Cil-y-coed a Techniquest yn ysbrydoli peirianwyr yfory
28 Medi 2021
Mae myfyrwyr mentrus o Ysgol Cil-y-coed a ddyluniodd eitem fuddugol yn arddangosfa Techniquest wedi ymweld â'u creadigaeth ym Mae Caerdydd sy’n defnyddio thema lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Cafodd y myfyrwyr y dasg o ddyfeisio eitem mewn arddangosfa a fyddai’n cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o sut mae microsglodion a haenellau yn cael eu cynhyrchu yn y diwydiant lled-ddargludyddion a ffotoneg cyfansawdd sy’n cyflogi miloedd o bobl yn ne Cymru.
Bu’r Ysgol yn gweithio gyda Newport Wafer Fab, sef cwmni sydd â mwy na 30 mlynedd o brofiad ym maes cynhyrchu dyfeisiau silicon o safon fyd-eang ym mhen ucha’r farchnad — fel rhan o Gynllun Addysg Peirianneg Cymru (EESW). Mae'r elusen nid-er-elw yn dwyn myfyrwyr a byd diwydiant ynghyd i weithio ar heriau go iawn yn y byd.
Aeth y disgyblion ar daith o amgylch safle’r ffatri yng Nghasnewydd cyn dylunio'r eitem flaenllaw yn yr arddangosfa ar gyfer Techniquest, sef y ganolfan wyddoniaeth hynaf yn y DU.
Dyma a ddywedodd y myfyriwr Conor Scott: “Ar ôl blwyddyn COVID, a phethau’n cael eu gohirio ym mhob man a bob amser, mae gweld y gwaith gorffenedig yn beth braf iawn. Mae’n wych.”
Ychwanegodd Gruff, cyd-fyfyriwr iddo: “Peth gwych yw egluro’r eitem yn yr arddangosfa mewn dull eithaf rhyngweithiol gan y bydd plant yn gallu dod i mewn, edrych arni, chwarae gyda hi, a’r gobaith yw y bydd yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o beirianwyr.”
Ychwanegodd yr athro Mark Sheridan: “Rwy'n credu bod y myfyrwyr yn hoffi’r ffaith eu bod nhw wedi cyfrannu at rywbeth sy’n bodoli go iawn. Oherwydd yn aml iawn, mae gennych chi syniad, rydych chi'n gwneud prosiect, mae'r cyfan ar bapur, ac yna pan maen nhw'n gadael yr ysgol dyma'r genhedlaeth nesaf yn dod atoch chi ac wedyn mae gennym broblem arall i’w datrys. Ond y ffaith ei bod yma yn gorfforol megis — dwi'n dweud wrth fy holl fyfyrwyr peirianneg amdani gan mai rhywbeth sy’n ysbrydoli sydd dan sylw. ”
Cymerodd pum tîm o Ysgol Basaleg, Ysgol Uwchradd Coleg Sant Ioan ac Ysgol Cil-y-coed ran yn yr her. Dewiswyd yr eitem fuddugol gan banel o feirniaid o Techiquest, EESW, NWF a CSconnected, sef clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sy'n dwyn ynghyd byd diwydiant, buddsoddwyr, academyddion a'r llywodraeth dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.
Dyma a ddywedodd James Summers, Pennaeth Prosiectau Techniquest: “Mae'r bartneriaeth ar y cyd â CSconnected yn chwarae rhan hanfodol yn amcanion Techniquest i gynnau diddordeb disgyblion a dangos y gorau o ddiwydiannau ac arloesedd yma yng Nghymru. Mae'r eitem hon yn yr arddangosfa yn tynnu sylw at y datblygiadau arloesol ym maes technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru gan fod y rhain yn hanfodol yn y dechnoleg rydyn ni’n ei defnyddio yn ein bywydau bob dydd. Diolch i CSconnected a’r cyfraniadau gan ddisgyblion Ysgol Caldicot, cafodd yr eitem hon ei chreu i esblygu wrth i'r dechnoleg ei hun ddatblygu, a bydd hyn yn ysbrydoli peirianwyr y dyfodol am flynyddoedd i ddod. "
Dyma’r hyn a ddywedodd Chris Meadows, Cyfarwyddwr CSconnected: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Ysgol Cil-y-coed a gyfrannodd at yr eitem hon ar bwnc lled-ddargludyddion cyfansawdd yn arddangosfa Techniquest. Mae CSconnected yn gweithio'n agos gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn y rhanbarth i hyrwyddo sgiliau a gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â STEM. Mae ein cymuned yn darparu mwy na 1500 o swyddi hyfedr a gwerth uchel a’r tebygrwydd yw y bydd nifer y swyddi yn dyblu yn ystod y blynyddoedd nesaf, felly mae’n rhaid inni ddenu’r myfyrwyr yn gynnar a'u hysbrydoli er mwyn sicrhau mai nhw fydd cenhedlaeth nesaf peirianwyr Cymru a fydd yn llunio technoleg yfory.”