Lansio prosiect ar gyfer triniaethau newydd ar gyfer sgitsoffrenia
28 Medi 2021
Bydd tua 1% o'r boblogaeth yn datblygu sgitsoffrenia ar ryw adeg yn eu bywydau, ac yn cael symptomau rhithwelediadau, camdybiaethau ac ymddygiad anrhefnus. Mae prosiect ymchwil newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn dwyn ynghyd arbenigwyr ym maes darganfod meddyginiaethau i ddod o hyd i therapïau newydd ar gyfer y cyflwr iechyd meddwl hwn.
Mae'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau wedi lansio prosiect newydd i ymchwilio i opsiynau triniaeth newydd ar gyfer sgitsoffrenia, gan gynnig gwell opsiynau i gleifion yn y dyfodol.
Bydd yr ymchwil, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, yn ymchwilio i weld a allai modiwleiddio derbynnydd allweddol yn yr ymennydd fod yn driniaeth newydd ar gyfer y symptomau seicosis sy'n gysylltiedig â sgitsoffrenia.
Dywedodd Dr David Foley, Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd "Ar hyn o bryd, mae meddyginiaethau'n methu â thrin rhai o agweddau sgitsoffrenia yn effeithiol, gyda thua thraean o gleifion heb ymateb i gyffuriau gwrthseicotig cyfredol. Mae hyn yn parhau’n rhwystr enfawr i’r rheini sydd â sgitsoffrenia ac mae’r symptomau hyn yn gysylltiedig â chost flynyddol o tua £12 biliwn i’r DU.
"Gan adeiladu ar ein harbenigedd helaeth mewn llwybr signalau hanfodol ar yr ymennydd, llwybr GABA, nod ein hymchwil yw datblygu therapïau newydd a gwell ar gyfer sgitsoffrenia, gan dargedu derbynnydd yn yr ymennydd o'r enw α5-GABAA.
"Bydd ein cyllid gan Ymddiriedolaeth Wellcome yn ein galluogi i ddatblygu modylyddion dewisol o α5-GABAA a dechrau ymchwilio i'r moleciwlau hyn fel therapi posibl ar gyfer seicosis mewn sgitsoffrenia.
"Prif nod y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau yw cyflymu'r gwaith o drosi ymchwil academaidd er budd cleifion a gobeithiwn y gallwn gynnig atebion newydd i gleifion â sgitsoffrenia a gwella eu hopsiynau therapiwtig a'u rheolaeth o'u symptomau yn sylweddol."