Gwyddonwyr Duon y ddaear a’r amgylchedd yn dylanwadu ar y dyfodol
4 Hydref 2021
Wrth i'r Deyrnas Unedig nodi Mis Hanes Pobl Dduon, hoffai Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd gydnabod, hyrwyddo a chefnogi gwaith gwyddonwyr Duon y ddaear a’r amgylchedd sydd wedi cyfrannu at well dealltwriaeth o'n byd.
Mae mis Hydref wedi cael ei ddathlu fel Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU ers 1987. Dyma ddathliad cenedlaethol sy'n ceisio clodfori llwyddiannau a chyflawniadau pobl Dduon a chydnabod eu cyfraniadau eithriadol at fywyd Prydain a ledled y byd.
I gymryd rhan yn y dathliadau, byddwn yn rhannu detholiad bach o waith rhai gwyddonwyr Duon ysbrydoledig y ddaear a’r amgylchedd ar Twitter o 11-15 Hydref 2021. Byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth fewnol o fentrau yn yr Ysgol sy'n ceisio cynyddu amrywiaeth, yn ogystal â rhoi sylw i gymunedau ar-lein yn y DU sy'n cefnogi pobl Dduon mewn STEM, yn enwedig ym meysydd gwyddorau’r ddaear a'r amgylchedd. Dilynwch yr ymgyrch ar ein cyfrif Twitter @CU_EARTH.
Er bod Mis Hanes Pobl Dduon yn gyfle i ddathlu cyflawniadau'r gorffennol a'r presennol, mae hefyd yn gyfle i edrych i'r dyfodol a bod yn agored ac yn onest am yr hyn y mae angen ei wneud i wella cynrychiolaeth Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chymryd rhan yn y mentrau yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd isod.
Cau’r Bwlch
Nod Cau'r Bwlch yw cynyddu'r ddealltwriaeth o'r rhwystrau i lwyddiant myfyrwyr BAME, nodi mentrau llwyddiannus blaenorol a rhannu profiad arfer gorau, gyda'r nod o gau'r bwlch o ran cyrhaeddiad a geir ar hyn o bryd ar lefel Ysgol, Coleg a Phrifysgol.
Ar hyn o bryd, mae bwlch cyrhaeddiad cyfartalog o 13% rhwng myfyrwyr gwyn a myfyrwyr o gefndiroedd BAME+ ar draws prifysgolion y DU. I gau'r bwlch hwn, gwnaed argymhellion gan Brifysgol Caerdydd i ddarparu arweinyddiaeth gryfach, cael sgyrsiau agored am hil, datblygu amgylcheddau mwy cynhwysol ac amrywiol, a deall arferion gorau.
O fewn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen cyrhaeddiad BAME i sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu dilyn. Mae'r grŵp yn cynnwys staff academaidd a gweinyddol, a myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o amrywiaeth o gefndiroedd amrywiol, sy'n cwrdd unwaith y mis i drafod materion y gorffennol a'r presennol a datblygu ffyrdd newydd o ddarparu amgylchedd dysgu mwy cynhwysol ac amrywiol ar gyfer pob myfyriwr ac aelod o staff.
Nod y grŵp hefyd yw gwella allgymorth BAME drwy greu amgylchedd mwy croesawgar ar gyfer ymchwil, addysgu a phrofiad byw.
Dad-ddysgu Hiliaeth mewn Geowyddorau
Mae ein grŵp darllen strwythuredig yn dilyn cwricwlwm a arweinir gan ymchwil am ddad-ddysgu hiliaeth mewn geowyddorau. Mae'r grŵp yn cwrdd bob pythefnos i gyfleu syniadau yn seiliedig ar gyfweliadau ag ysgolheigion ac erthyglau ynghylch pynciau hiliaeth a:
- diffiniadau
- unigolion
- hanes
- cyfiawnder
- hygyrchedd
- cynwysoldeb
- hunanofal
- .
Ar sail y trafodaethau, mae'r tîm yn llunio'r hyn y gellir ei gyflawni gyda'r nod o ffurfio polisïau ysgol newydd sy'n mynd i'r afael â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb posibl.
Er mwyn dangos eich ymrwymiad i wneud cynnydd cadarnhaol i'n cymuned BAME, gobeithiwn y byddwch yn gallu cyfrannu at fentrau o fewn yr Ysgol, mynychu'r digwyddiadau hyfforddi sydd ar y gweill, a dangos eich cefnogaeth i'n hymgyrch Mis Hanes Pobl Dduon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae rhagor o gefnogaeth i geowyddonwyr Du i'w gweld drwy'r ymgyrch Twitter 'Black in Geoscience Week 2021' a drefnwyd gan Black in Geoscience, a gynhaliwyd ym mis Medi 2021. Er bod yr ymgyrch bellach wedi dod i ben, gallwch weld y negeseuon Trydar gan ddefnyddio'r hashnod #BiGWeek2021 a chysylltu â gwyddonwyr Du ysbrydoledig o bob cwr o'r byd.