Ewch i’r prif gynnwys

Lansio llwybr optometreg sy’n cynnig ffordd wahanol tuag at radd

23 Medi 2021

Eye examination

Ychwanegwyd Optometreg at y portffolio cynyddol o lwybrau gradd sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n cynnig llwybr gwahanol at ennill gradd mewn optometreg.

Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) sy’n cydlynu’r Llwybr at Optometreg a’i fwriad yw bod yn hyblyg o ran y dysgu a gyflwynir yn rhan-amser gyda'r nos ac ar benwythnosau i gyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith a theuluol. Bydd y myfyrwyr yn astudio mewn cyd-destunau cadarnhaol, yn gwella eu sgiliau astudio ac yn derbyn cymorth o ran eu cais i’r brifysgol.

Daw’r cyhoeddiad cyffrous hwn ar ben-blwydd lansio llwybr cyntaf y Brifysgol yn 10 oed, sef llwybr i radd mewn hanes, archaeoleg a chrefydd. Yn ystod y degawd diwethaf rydyn ni wedi ychwanegu un ar ddeg maes pwnc arall ac mae’r rhain yn rhoi llwybr i astudiaethau gradd i'r rheiny sydd efallai wedi bod i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth ers nifer o flynyddoedd.

Dyma’r hyn a ddywedodd Dr Sara Jones sy'n cydlynu'r llwybrau: “Rydyn ni'n falch iawn o groesawu'r Ysgol Optometreg yn bartneriaid sy'n cynnig dau lwybr newydd at astudio ymhellach ym Mhrifysgol Caerdydd. Nid yw pawb yn barod i ddechrau Addysg Uwch yn 18 oed ond rydyn ni’n sicrhau bod gan fyfyrwyr lwybr clir a hygyrch pan fydd yr amser yn iawn iddyn nhw.”

Rhagor o wybodaeth am ein Llwybr at radd mewn Optometreg.

Rhannu’r stori hon