Medal Arian Olympaidd i Gynfyfyriwr Ffisiotherapi o Brifysgol Caerdydd
22 Medi 2021
Mae Tom Barras (BSc 2015), Ffisiotherapydd cymwysedig a raddiodd o Brifysgol Caerdydd ac sydd wedi ennill Medal Olympaidd, wedi cyflawni mwy yn ei 27 o flynyddoedd nag y byddai rhai ohonom ni'n gobeithio ei wneud mewn oes.
Bu Tom yn cynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Byd ar lefel Iau a dan 23. Ond ni ddaeth i sylw'r byd rhwyfo tan iddo fod yn rhwyfwr Rhyngwladol Hŷn. Enillodd fedal efydd yn y cychod rhwyfo unigol yn 2017 yn Sarasota-Bradenton, y pedwerydd Prydeiniwr erioed i ennill ras gyfatebol y dynion. Yn ddiweddar aeth yn ei flaen i ennill medal arian yn y cychod rasio pedwar yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020.
Ond yn ogystal â chael gyrfa athletaidd arobryn, graddiodd Tom hefyd o Brifysgol Caerdydd yn 2015 gyda gradd mewn Ffisiotherapi. Aeth ymlaen i fod yn Ffisiotherapydd siartredig, ac mae wedi helpu pobl eraill mewn clinigau cleifion y GIG a Phreifat.
Mae'r cyn-fyfyriwr hwn o Brifysgol Caerdydd yn cydnabod pa mor bell mae wedi dod mewn cyfnod mor fyr. Ag yntau bellach yn herio rhai o rwyfwyr gorau’r byd, mae hefyd yn cydbwyso gyrfa mewn Ffisiotherapi; yn iacháu a gwella bywydau cleifion.
Dywed Tom wrthym pam fod dewis Caerdydd wedi ei helpu ar ei daith: "Doeddwn i ddim yn siŵr beth i'w wneud tan i fi ymweld â Phrifysgol Caerdydd ar ddiwrnod agored. Roedd y gallu i astudio yn Ysbyty Athrofaol byd-enwog Cymru, a dysgu mewn amgylchedd gyda'r offer a'r cyfleusterau diweddaraf yn hynod o gyffrous. Fel yr oedd y cyfleusterau chwaraeon a rhwyfo perfformiad uchel o'r radd flaenaf yn Nhalybont, Sefydliad Chwaraeon Cymru a chanolfan hamdden Channel View. Roedd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn gynnes, yn gyfeillgar ac yn groesawgar, ac roedd y darlithwyr a'r staff chwaraeon yr un mor gyfoethog eu brwdfrydedd a'u hangerdd dros eu priod feysydd. Hyd yn oed yng nghanol y darlithfeydd modern enfawr a'r ystafelloedd ymarferol smart â'r offer diweddaraf, roedd y lle'n dal i deimlo'n gartrefol.
"Yng nghlwb rhwyfo'r brifysgol, gyda chefnogaeth Rhwyfo Cymru, roedd digon o gyd-chwaraewyr i hyfforddi gyda nhw, gan yn fy ngwthio i fod yn gyflymach, yn gryfach ac yn fwy technegol. Ond nid y rhwyfo yn unig oedd ffynhonnell fy mrwdfrydedd dros chwaraeon yn y brifysgol - ond yr ymweliadau â chaffi ASDA rhwng sesiynau, nosweithiau Mercher yn Undeb y Myfyrwyr, a'r gemau o fadminton yng nghampfa'r brifysgol oedd yn gwneud i'r hyfforddi deimlo cymaint yn fwy llesol."
Daeth y cyfuniad llyfn o ddewis gyrfa ac angerdd dros chwaraeon at ei gilydd i Tom pan oedd yn ifanc. O'r pwynt hwnnw roedd llwyddo yn ei gamp ynghyd ag astudio am yrfa mewn Ffisiotherapi yn ymddangos yn ddewis amlwg.
"Fel plentyn roeddwn i wrth fy modd gyda chwaraeon - ond yn 15 oed dechreuais gael trafferth gyda phoen yn fy mhen-glin. Gwelodd ffisiotherapydd fod gen i dyfiant ychwanegol ar asgwrn y forddwyd (y glun) ac yn dilyn llawdriniaeth i dynnu'r tyfiant a dychwelyd yn llwyddiannus at chwaraeon, cefais fy ysbrydoli. Dyna pryd y dechreuais i weld y berthynas symbiotig y gallwn ei chael rhwng astudio ffisiotherapi a llwyddo fel athletwr. Ers cwblhau fy astudiaethau rwyf i wedi gallu cymryd toreth o wybodaeth o fy ngradd a'i chymhwyso i fy nghamp."
Ag yntau bellach yn enillydd medal Olympaidd, mae Tom yn wirioneddol gredu y gall y Gemau helpu i ysbrydoli eraill i fod yn egnïol a pharhau i symud:
"Mae'r Gemau Olympaidd yn arddangos llu o gampau na chânt eu gweld ar y teledu nac mewn adroddiadau'n aml, ac os oes rhywun, yn rhywle wedi mynd ati i roi cynnig ar gamp newydd oherwydd y gemau, yna rwy'n credu ein bod ni fel Olympiaid wedi llwyddo. Y fedal arian i fi yw'r geiriosen ar ben y gacen foethus o gyfoethog a blasus!"
Fodd bynnag mae'n amlwg nad gyrfa athletaidd yn unig sy'n bwysig i Tom. Mae wrth ei fodd â'i waith fel ffisiotherapydd, ac yn mwynhau'r cyfleoedd i helpu i alluogi unigolion i wella eu hiechyd, eu lles ac ansawdd eu bywyd.
"Er fy mod i bellach yn ymarfer fel ffisiotherapydd cleifion allanol MSK (gwaith gyda'r nos ar ôl hyfforddi), daw fy hoff atgof o fy nghyfnod ar leoliad gwaith niwro. Roedd gennym ni wraig oedrannus hyfryd y dywedwyd wrthi ers tro am beidio â disgwyl gallu cerdded eto. Roeddwn i yno am yr ychydig wythnosau olaf wrth i ni lwyddo yn gyntaf i ddefnyddio'r teclyn codi i'w chael hi allan o'i chadair, ac yna ymlaen at gerdded ychydig gamau gyda'r teclyn codi'n gymorth. Yn ddiarwybod i'r claf, roedd ei theulu y tu allan i'r ward yn ei gwylio'n cymryd yr ychydig gamau hyn, ac wrth iddi hi wneud hynny, fe ruthron nhw i mewn gan ddathlu a bloeddio. Dechreuodd pawb yn y ward gymeradwyo, gyda'r claf yn wylo dagrau o lawenydd. Cyffyrddodd hyn â fy nghalon a chynnig cipolwg ar faint o effaith gadarnhaol y gallwn ei chael ar fywydau a lles pobl."
Mae'n amlwg fod Tom yn ysbrydoliaeth mewn mwy nag un ffordd ac mae eisoes wedi cyflawni cymaint - nid iddo fe ei hun yn unig, ond i eraill hefyd. Rydym ni'n rhagweld nad dyma'r tro olaf y byddwn ni'n clywed am ei lwyddiannau.
Hyd yn oed os mai ei unig nod oedd ysbrydoli, yna yn sicr mae Tom wedi llwyddo.