Cyhoeddi dau lwybr newydd
21 Medi 2021
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cynnwys dau faes pwnc newydd i'w hystod gynyddol o lwybrau.
O hydref 2021 ymlaen gall myfyrwyr ymrestru ar y Llwybr i Optometreg sy'n darparu llwybr i radd israddedig mewn optometreg gyda blwyddyn ragarweiniol.
Bydd y cyfle hefyd i astudio tuag at Ddiploma mewn Hylendid Deintyddol.
Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) fydd yn cydlynu ein llwybrau ac maen nhw wedi’u llunio i fod yn hyblyg.
Mae’r llwybrau yn rhan-amser a bydd y dysgu'n digwydd gyda'r nos ac ar benwythnosau i gyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith a theulu. Bydd y myfyrwyr yn astudio mewn cyd-destunau cadarnhaol, yn gwella eu sgiliau astudio ac yn derbyn cymorth o ran eu cais i’r brifysgol. Mae cyngor ar gyllid ar gael hefyd.
Daw’r cyhoeddiad cyffrous hwn ar ben-blwydd lansio ein Llwybr cyntaf yn 10 oed, sef llwybr i radd mewn hanes, archeoleg a chrefydd. Yn ystod y degawd diwethaf rydyn ni wedi ychwanegu 11 maes pwnc arall ac mae’r rhain yn rhoi llwybr i astudiaethau gradd i'r rheiny sydd wedi bod i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth am nifer o flynyddoedd.
Dr Sara Jones sy'n cydlynu'r llwybrau a dyma’r hyn a ddywedodd: “Rydyn ni'n falch iawn o groesawu'r Ysgol Optometreg a'r Ysgol Deintyddiaeth yn bartneriaid sy'n darparu dau lwybr newydd i astudio ymhellach ym Mhrifysgol Caerdydd. Nid yw pawb yn barod i ddechrau Addysg Uwch yn 18 oed ond rydyn ni’n sicrhau bod gan fyfyrwyr lwybr clir a hygyrch pan fydd yr amser yn iawn iddyn nhw. ”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan neu anfonwch ebost i pathways@cardiff.ac.uk