Brexit ac Ynys Iwerddon: Brigid Laffan wedi’i chadarnhau ar gyfer y Ddarlith Flynyddol
23 Medi 2021
Bydd Darlith Flynyddol 2021 Canolfan Llywodraethiant Cymru yn cael ei thraddodi gan un o academyddion mwyaf nodedig Iwerddon.
Yr Athro Brigid Laffan oedd Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Uwch Robert Schuman yn y Sefydliad Prifysgol Ewropeaidd nes iddi ymddeol fis diwethaf. Mae wedi cyflawni sawl rôl yn y byd academaidd yn Iwerddon ac mewn prifysgolion ledled Ewrop, a bu’n flaenllaw wrth ddatblygu astudiaethau Ewropeaidd fel disgyblaeth.
Bydd yr Athro Laffan, sy’n cael ei chydnabod fel un o brif arbenigwyr Iwerddon ar Ewrop, yn trafod pwnc 'Brexit ac Ynys Iwerddon', gan ddadansoddi sut y gwnaeth Iwerddon ymateb i Brexit a sut mae wedi effeithio ar y cydbwysedd gwleidyddol a sefydliadol bregus oedd yn ganolog i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith (GFA). Bydd disgwyl hefyd i’w darlith gwmpasu ymateb llywodraeth Dulyn i Brexit a sut mae’r prosesau hyn wedi effeithio ar y berthynas rhwng Llundain a Brwsel.
Cynhelir y ddarlith ar-lein ar Zoom am 17-00-18:30 ddydd Iau 21 Hydref, a gall pawb gofrestru ar ei chyfer yn rhad ac am ddim trwy'r ddolen hon.
Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd:
"Mae Brigid Laffan yn un o wyddonwyr cymdeithasol amlycaf ei chenhedlaeth o’r Iwerddon ac yn ffigur canolog mewn Astudiaethau Ewropeaidd. O’r herwydd, mae’n anodd dychmygu unrhyw a allai drafod goblygiadau Brexit i ynys Iwerddon gyda mwy o awdurdod. Edrychwn ymlaen yn eiddgar iawn at ein darlith blynyddol eleni."