Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2022
17 Medi 2021
Prifysgol Caerdydd yw Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru yn Good University Guide 2022 The Times a The Sunday Times.
Mae hefyd yn dal i fod yn y safle uchaf yng Nghymru. Mae yn safle 35 allan o 135 ledled y DU.
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn llwyddiant pellach yn y tabl cynghrair, lle mae Caerdydd wedi dringo pum safle ac aros yn y safle uchaf yng Nghymru yn Good University Guide 2022, a gyhoeddwyd ym mis Awst.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae aros yn y safle uchaf yng Nghymru yn Good University Guide The Times a The Sunday Times ar ôl blwyddyn heb ei thebyg o’r blaen i’r sector addysg uwch yn gyflawniad sylweddol...”
“Mae'n braf cael ein cydnabod fel hyn wrth i ni barhau â'n hymdrechion i fod yn glod i Gymru a chwarae rhan allweddol yn llwyddiant economaidd a chymdeithasol y genedl.”
Mae'r Brifysgol wedi buddsoddi £50 miliwn yn ei Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, a bydd yn agor Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2021/22.
Ychwanegodd Alastair McCall, Golygydd Good University Guide The Times a The Sunday Times: “Prifysgol Caerdydd yw un o’r cyrchfannau sy’n apelio fwyaf at unigolion ar hyn o bryd, ac mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y ceisiadau iddi...”