Prosiect mentora iaith ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Addysg Uwch
17 Medi 2021
Mae prosiect sy'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ieithoedd modern wedi cyrraedd rhestr fer "Oscars Addysg Uwch" 2021.
Mae Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern (MFL) Prifysgol Caerdydd wedi cyrraedd rhestr fer categori 'Menter Ehangu Cyfranogiad neu Allgymorth y Flwyddyn' yng ngwobrau THE eleni, ac mae'n un o bum prosiect yn unig (o 160 ar y rhestr fer) o brifysgol yng Nghymru.
Bellach yn ei 17eg flwyddyn, mae gwobrau THE yn cydnabod y goreuon ym maes addysg uwch y DU, ar draws 20 categori sy'n ymdrin â phob agwedd ar weithgarwch prifysgol.
Dechreuodd y Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn 2015 i gynyddu nifer y dysgwyr ifanc sy'n dewis astudio ieithoedd yng Nghymru. Mae ffactorau amrywiol, gan gynnwys cymhelliant isel, anhawster canfyddedig a diffyg opsiynau, wedi arwain at ostyngiad o 64% yn nifer y myfyrwyr Cymraeg sy'n astudio iaith fodern ar gyfer TGAU. Yn Lloegr, mae'r nifer sy'n dewis y pynciau wedi gostwng 48% dros gyfnod tebyg.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’r Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn defnyddio methodolegau mentora i ehangu gorwelion, hybu cymhelliant ac ysbrydoli myfyrwyr i ddysgu iaith ar gyfer TGAU a thu hwnt. Mae’r prosiect
yn hyfforddi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i gyflwyno chwe sesiwn fentora i ddisgyblion blwyddyn 8/9 cyn iddynt wneud eu dewisiadau pwnc TGAU. Mae'r prosiect yn unigryw gan ei fod yn cynnig cefnogaeth barhaus wedi'i thargedu ar bwynt allweddol ym mywyd disgybl, ac yn gweithio gyda disgyblion sy'n ansicr ynghylch ieithoedd neu sydd yn erbyn eu hastudio ar gyfer TGAU. Mae pob cylch prosiect yn gorffen drwy ymweld â phrifysgol, neu gyfres o weithgareddau, gan godi dyheadau disgyblion o ran parhau i astudio.
Prif ysgogiad y prosiect yw gwneud ieithoedd yn hygyrch i bawb, gan fynd i'r afael â'r lefel isel o bobl ifanc sy'n cyfrannu o gymunedau difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol. Nod y prosiect hefyd yw gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chydlyniant cymdeithasol trwy ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o wahanol bobl, diwylliannau ac ieithoedd.
Wrth siarad am y rhestr fer, dywedodd Lucy Jenkins, cyfarwyddwr y prosiect, “Mae pawb yn y Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern wrth eu bodd bod ein gwaith wedi cael ei gydnabod mewn digwyddiad mor fawreddog yn y calendr addysg. Rydym bob amser yn canolbwyntio ar y dysgwyr ifanc rydym yn eu hysbrydoli i astudio ieithoedd, ond mae cael ein cydnabod gan ein cyfoedion ym maes addysg yn gyflawniad enfawr hefyd."
Bydd seremoni gwobrau THE eleni yn cael ei chynnal ar 25 Tachwedd 2021 yng nghanol Llundain.