Ymchwilydd DPMCN yn derbyn gwobr am gyflawniad gwyddonol rhagorol mewn ADHD
16 Medi 2021
Mae Cymrawd Ymchwil yn yr Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Glinigol (DPMCN) wedi derbyn gwobr am ei gwaith mewn Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac anhwylderau cysylltiedig.
Enillodd Dr Joanna Martin, a ddewiswyd yn unfrydol o blith llawer o geisiadau, Wobr Kramer Pollnow (KPP) 2021, gwobr nodedig am ymchwil glinigol a genetig ragorol ym maes ADHD, gan ganolbwyntio ar seiciatreg plant a phobl ifanc.
Mae ennill y wobr, a gyflwynwyd yng nghyfarfod EUNETHYDIS (EUropean NETwork for HYperkinetic DISorders) eleni, yn golygu bod Dr Martin yn cael ei chydnabod yn un o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw'r byd yn ei maes.
Mae Dr Martin yn arbenigo yn effaith ffactorau risg genetig ar ffenoteipiau seiciatryddol a niwroddatblygiadol plant, gan ganolbwyntio ar archwilio gwahaniaethau rhyw a rhywedd o fewn ADHD.
Mae ei gwaith wedi cyfrannu at y ddealltwriaeth o ffactorau risg genetig ar gyfer ADHD mewn merched a pham mae'r cyflwr yn llai tebygol o gael ei ddiagnosio mewn merched na bechgyn.
Dywedodd yr Athro Anita Thapar, sy'n arwain yr is-adran Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yn DPMCN ac a oedd yn gyfrifol am ei henwebu, “Mae Joanna yn wyddonydd rhagorol ac yn adnabyddus yn rhyngwladol. Mae'r wobr hon a'r gydnabyddiaeth ohoni yn haeddiannol iawn.”
Ychwanegodd yr Athro James Walters, cyfarwyddwr Canolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg yr MRC (CNGG yr MRC):
Mae Joanna wedi derbyn cyllid gan Ymddiriedolaeth Wellcome, Sêr Cymru a Sefydliad Ymchwil yr Ymennydd ac Ymddygiad i gefnogi ei gwaith cydweithredol gyda nifer o gydweithwyr rhyngwladol.
Mae ei hymchwil wedi taflu goleuni ar ffactorau genetig sy'n gysylltiedig ag ADHD a sut maent yn effeithio ar wahaniaethau mewn unigolion sydd â'r cyflwr.
Ychwanegodd yr Athro Jeremy Hall, cyfarwyddwr DPMCN, “Rwy’n hynod falch bod Joanna wedi derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol hon am ei gwaith mewn maes clinigol pwysig nad yw’n cael ei astudio’n ddigonol.”