Maes chwarae sy’n teithio drwy amser yn agor
15 Medi 2021
Man awyr agored ar thema gynhanesyddol yn agor, diolch i gymorth cyllid lleol
Mae prosiect cymunedol sy'n dod â threftadaeth yn fyw ar safle cynhanesyddol mwyaf Caerdydd wedi rhoi bod i fan chwarae newydd i blant, diolch i gefnogaeth fawr gan Tai Wales & West a Chyngor Caerdydd.
Mae Prosiect y Fryngaer Gudd yn archwilio hanes ac archeoleg bryngaer Caerau o’r Oes Haearn a'r ardal gyfagos. Ac yntau’n cael ei redeg gan Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a llu o bartneriaid sy’n cynnwys Prifysgol Caerdydd, bydd y prosiect deng mlynedd yn helpu i gysylltu cymunedau â'u treftadaeth.
Defnyddiwyd y nawdd i greu man chwarae newydd i blant ‘ar thema treftadaeth’ ar y safle fel rhan o'r prosiect arbennig.
Mae’r maes chwarae wedi’i ddylunio gan bobl leol mewn cydweithrediad â’r arbenigwyr yn Green Play. Cynlluniwyd iddo archwilio agweddau ar dreftadaeth yr heneb 2,000 oed drwy chwarae. Bydd yn cynnwys tai crynion, cerrig sarn amser a sleidiau i lawr rhagfuriau wedi’u hysbrydoli gan y fryngaer.
Gwnaeth teuluoedd lleol, y Cynghorydd Peter Bradbury, aelodau o grŵp cymunedol UNITY a helpodd i ddylunio’r maes chwarae ac Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West, fynd i’r digwyddiad agor swyddogol ar 3 Medi.
Rhoddodd y darparwr tai, Tai Wales & West, nawdd o £70,000 o'i gronfa Gwneud Gwahaniaeth, sy'n helpu cyflenwyr a chontractwyr i roi yn ôl i gymunedau lleol drwy gefnogi grwpiau chwaraeon a chymunedol.
Mae agor y maes chwarae’n nodi'r cam cyffrous nesaf i Brosiect Bryngaer Gudd CAER Heritage. Mae disgwyl i’w Ganolfan Dreftadaeth newydd agor yr hydref hwn.