Pwysigrwydd cyfathrebu di-eiriau wrth weithio o bell am fod yn ganolbwynt ymchwil
14 Medi 2021
Mae prosiect gan Brifysgol Caerdydd wedi ennill mwy na £600,000 i asesu effeithiolrwydd cyfathrebu ar-lein yn y gweithle.
Mae'r prosiect, a gyd-arweinir gan Goleg Mary Immaculate yn Iwerddon, yn dod ag 16 partner o bob rhan o'r sectorau busnes, diwylliant ac addysg ynghyd i gael gwell dealltwriaeth o’r newid i weithio ar-lein a gyflymwyd gan bandemig COVID-19.
Bydd ymchwilwyr yn recordio ac yn trawsgrifio cyfarfodydd a rhyngweithiadau ar-lein eraill, yn cynnal grwpiau ffocws ac yn cynnal arolygon i ddeall rhwystrau posibl i gyfathrebu effeithiol. Yn wahanol i astudiaethau eraill sydd wedi canolbwyntio ar iaith lafar yn unig, bydd ymchwilwyr hefyd yn dadansoddi cyfathrebu di-eiriau fel ystumiau, syllu a nodio pen, i weld pa effaith y maent yn ei chael ar effeithiolrwydd cyfarfodydd rhithwir.
Ychwanegodd Dr Dawn Knight, Darllenydd yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd a chyd-Brif Ymchwilydd ar y prosiect: “Mae newidiadau yn ein gweithleoedd ac arferion gwaith ymhlith y nifer o drawsnewidiadau y mae COVID-19 wedi'u gorfodi ar gymdeithas dros y 18 mis diwethaf. Fel petai dros nos, cawsom ein symud o'n swyddfeydd a'n mannau cyfarfod arferol, i weithio o bell o'n cartrefi.
“Ac er bod y ffordd newydd hon o weithio wedi bod o fudd i lawer o bobl, rydym am ddeall y trawsnewidiad hwn yn fwy manwl. Felly, byddwn yn canolbwyntio ar y ffyrdd y mae pobl yn rhyngweithio ar-lein o'r lleoliadau gwaith anarferol hyn."
Bydd ymchwilwyr yn dadansoddi nodweddion fel rhywedd, oedran, statws ac ethnigrwydd a ffactorau fel cymryd tro i ddeall pam mae rhai mathau o ryngweithio yn llwyddiannus ac eraill ddim.
Eu bwriad yw defnyddio eu canfyddiadau i greu dulliau codi ymwybyddiaeth a deunyddiau hyfforddi wedi'u dylunio gyda phartneriaid prosiect i helpu i oresgyn heriau a rhwystrau yn y dyfodol.
“Gyda lwc, bydd yr adnoddau hyn, ynghyd â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth a ddatblygwyd gan bartneriaid prosiect, yn rhoi hwb sylweddol i’n gallu i gynnig mynediad cyfartal ym maes cyfathrebu ar-lein,” ychwanegodd Dr Knight.
Bydd archif hefyd yn cael ei chreu ar-lein i alluogi ymchwil yn y dyfodol i gyfathrebu llafar a di-eiriau.. Drwy ddatblygu technegau sy’n cofnodi ac yn dadansoddi rhyngweithiadau, mae ymchwilwyr yn gobeithio safoni ffyrdd o ateb cwestiynau am iaith mewn modd sy’n hwylus i ymchwilwyr eraill ac arbenigwyr annhechnegol yn y Dyniaethau.
Mae'r cais llwyddiannus a ddyfarnwyd gan Gydweithrediad DU-Iwerddon yn y Grantiau Ymchwil Dyniaethau Digidol, yn golygu y bydd ymchwilwyr yn derbyn £390,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn ogystal â €270,000 arall gan Gyngor Ymchwil Iwerddon i gynnal yr ymchwil dros dair blynedd.
Ychwanegodd Dr Anne O'Keeffe, Uwch-ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol yng Ngholeg Mary Immaculate a chyd-Brif Ymchwilydd ar y prosiect: “Mae'n wych bod yn un o'r ceisiadau llwyddiannus yn yr alwad arwyddocaol hon am arian ymchwil Dyniaethau Digidol Prydain-Iwerddon.
“Gyda lwc, bydd y prosiect hwn yn arwain at roi deunyddiau hyfforddi ymarferol i'n partneriaid yn y sectorau busnes, diwylliant ac addysg. Wedi’r cwbl, ar ôl Covid, bydd y gofod digidol yn parhau i fod yn weithle ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau ac mae'n hanfodol ein bod ni'n cael gwell dealltwriaeth o beth mae cyfathrebu’n llwyddiannus yn ei olygu yn y cyfrwng hwn.”
Wedi'i gyd-arwain gan Brifysgol Caerdydd a Choleg Mary Immaculate, mae prosiect 'Amrywiaeth Rhyngweithiol Ar-lein' yn cynnwys: Auctioneera Estate Agent, Cambridge University Press, Irish World Academy of Music and Dance, Langford Communications Limited, Lime Tree Theatre, Petroleum Technology Company, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Abertawe, The Funding Centre, Dinasoedd Llenyddiaeth UNESCO (Nottingham/Dublin), Coleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Aberdeen a Phrifysgol Limerick.