Gwobrau cenedlaethol arbennig yn cydnabod hyrwyddwr cadwraeth
13 Medi 2021
Athro Cadwraeth wedi'i enwebu ar gyfer categori Menyw ym maes STEM Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021
Mae Jane Henderson, Athro Cadwraeth, wedi’i henwebu ar gyfer categori Menyw ym maes STEM Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021.
Mae'r elusen cydraddoldeb rhywiol yn cynnal y dathliad i gydnabod a thynnu sylw at gyflawniadau a chyfraniadau menywod nodedig o bob cefndir.
Mae pobl Cymru’n enwebu menywod mwyaf ysbrydoledig y genedl ar gyfer gwahanol gategorïau. Mae deg ohonynt ar gael, o Hyrwyddwr Cymunedol a Menyw mewn Chwaraeon i Fenyw mewn Iechyd a Gofal a Menyw ym maes STEM. Dyma’r chweched flwyddyn i’r gwobrau gael eu cynnal.
Mae'r Athro Jane Henderson ar flaen y gad ym maes cadwraeth. A hithau’n cynghori Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth ar gyfer amgueddfeydd, yn arbenigwr mewn safonau Ewropeaidd ac yn Ysgrifennydd Cyffredinol i’r Sefydliad Cadwraeth Rhyngwladol, Jane oedd un o sylfaenwyr Gofalu am Gasgliadau a dyfeisydd y Cynllun Achredu Cadwraeth – gan alluogi menywod yn y proffesiwn i gystadlu ar sail eu rhinweddau. Datblygwyd ei gwaith ar ryw a dylanwadu ar benderfyniadau i helpu menywod, yn enwedig gweithwyr proffesiynol ifanc, i gyfleu eu gwaith, dylanwadu ar eraill a datblygu eu gyrfaoedd. Mae’n cyfrannu at The C Word, podlediad ar gadwraeth, yn rheolaidd.
Dywedodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg:
“Mae Womenspire yn seremoni wobrwyo unigryw sy’n cydnabod menywod anhygoel sydd wedi cyflawni camp yn bersonol neu wedi gwneud cyfraniad rhagorol. Mae lle’r Athro Jane Henderson yn y rownd derfynol yn adlewyrchu’r ffaith ei bod ar flaen y gad ym maes cadwraeth yng Nghymru a ledled y byd.
Mae ei hymroddiad, ei harbenigedd a'r amgylchedd dysgu cefnogol y mae'n ei sicrhau i'w myfyrwyr yn ei gwneud yn fentor ac yn fodel rôl ysbrydoledig. Mae hefyd wedi cyrraedd brig ei phroffesiwn a sicrhau bob amser bod menywod eraill yn cael eu cefnogi a’u helpu i gyflawni.”
Mae Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021 yn cael eu ffrydio drwy gyfrifon Facebook a Twitter ITV Cymru Wales ddydd Iau, 30 Medi am 7pm. Y cyflwynwyr fydd Andrea Byrne o ITV Cymru Wales a’r actores a’r cyflwynydd Elin Pavli-Hinde.