Gwobr Basil Davies i driawd Dysgu Cymraeg Caerdydd
10 Medi 2021
Dyfarnwyd Gwobr Goffa Basil Davies i dri dysgwr sy'n oedolion a gofrestrodd ar gyrsiau ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Cyflawnodd Lizzie Hobbs, Erin Pyle ac Elisabeth Haljas, rhan o garfan Dysgu Cymraeg Caerdydd eleni, y sgorau uchaf yn arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC.
Mae rhaglen Dysgu Cymraeg Caerdydd, a gyflwynir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, wedi paratoi cyfanswm o 293 o ddysgwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt ar gyfer arholiadau CBAC eleni, gyda'r addysgu a'r asesu'n cael eu gwneud dros Zoom am y tro cyntaf oherwydd pandemig y coronafeirws.
Daw Elisabeth o Estonia'n wreiddiol, ac mae wedi bod gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd ers 2018 pan symudodd i'r DU i astudio i fod yn ddietegydd.
Dywedodd: "Rwy'n syfrdan ond hefyd mor falch i dderbyn Gwobr Basil Davies.
"Rwyf i wrth fy modd fy mod yn gallu cyfathrebu gyda phobl Gymraeg yn eu mamiaith. Mae'n deimlad gwych cael datblygu fy sgiliau dros y blynyddoedd ac rwyf i wedi cyfarfod â chymaint o bobl hyfryd ar hyd y daith."
Mae Elisabeth, oedd hefyd yn y ras yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, wedi cwblhau’r cyrsiau Sylfaen, Canolradd, ac yn fwyaf diweddar, Uwch ers 2018.
Ar y ffordd, mae wedi creu fideos Cymraeg am fwyta'n iach, ymddangos ar deledu Cymraeg, gwirfoddoli gyda chynyrchiadau Cymraeg yn Theatr Sherman a threfnu lleoliad gwaith yn Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl.
Mae Elisabeth yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio erbyn hyn fel dietegydd i'r GIG, gan ddefnyddio ei Chymraeg yn ddyddiol.
Ychwanegodd Elisabeth: "Mae dysgu Cymraeg wedi cynnig llawer o gyfleoedd gwahanol a hwyliog i mi. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld i ble arall y bydd yn mynd â fi."
Derbyniodd ei chyd-enillydd Lizzie Wobr Goffa Basil Davies am ei llwyddiant ar y cwrs lefel Sylfaen.
Daw Lizzie'n wreiddiol o Fangor, ac mae'n byw bellach yn Abertawe. Ymunodd â Dysgu Cymraeg Caerdydd ym mis Ionawr 2021 i helpu ei gyrfa.
Dywedodd: "Rwy'n hynod o falch o fy llwyddiant ar y cwrs Sylfaen.
"Roeddwn i'n awyddus ers tro i siarad Cymraeg yn rhugl, felly mae'n teimlo'n wych fy mod yn gweithio at hynny. Mae'r dosbarthiadau a fy nhiwtor rhagorol hefyd wedi rhoi llawer o hyder i fi ddefnyddio fy Nghymraeg."
Ymunodd Erin Pyle, a enillodd y wobr am ei gwaith ar y cwrs lefel Canolradd, â Dysgu Cymraeg Caerdydd i helpu ei gyrfa hefyd.
Daw o Elái yng Nghaerdydd, ac mae'n hyfforddi i fod yn Diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n defnyddio ei Chymraeg yn rheolaidd yn ei gwaith yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Dywedodd Erin: "Mae ennill y wobr yn fraint ac yn anrhydedd cwbl annisgwyl.
"Mae fel pe bai gan Gymru ddiwylliant cudd sydd wedi'i greu gan siaradwyr Cymraeg ac mae dysgu Cymraeg wedi agor y drws i fi, gan ddatgelu'r 'gyfrinach' am bopeth sydd gan Gymru i'w gynnig.”
Sefydlwyd gwobr Goffa Basil Davies yn 2017 ac fe'i cyd-gysylltir gan CBAC a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gydnabod ymgeiswyr a enillodd y marciau uchaf yn eu harholiadau.
Dywedodd Lowri Bunford-Jones, Rheolwr Dysgu Cymraeg Caerdydd: “Rydym ni'n falch iawn i fod wedi gallu cefnogi Lizzie, Erin ac Elisabeth i ddod yn siaradwyr Cymraeg drwy'r hyn a fu'n flwyddyn o heriau a chyfleoedd i ni a'n dysgwyr.
"Ynghyd â rhannau eraill o'r Brifysgol, symudon ni ein holl gyrsiau ar-lein ym mis Mawrth ar ddechrau'r pandemig. Ac er ei bod yn dipyn o daith ddysgu, mae'n golygu bod pobl o bedwar ban byd wedi cael y cyfle i ddysgu Cymraeg gyda'n tiwtoriaid profiadol.
"Felly fe edrychwn ni ymlaen at barhau â'r daith gyda phob un ohonyn nhw - gan gynnwys enillwyr y gwobrau - pan fydd y tymor newydd yn dechrau ym mis Medi."
Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn cynnal cyrsiau ar-lein ar bob lefel rhwng mis Medi a mis Mehefin bob blwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan Dysgu Cymraeg neu cysylltwch â nhw dros y ffôn 029 2087 4710 neu ebost info@learnwelsh.co.uk.