Ymchwilydd yn cael ei dewis i gystadlu yn rownd gynderfynol cystadleuaeth cynnig syniadau o safon ryngwladol
24 Medi 2021
Mae Dr Deborah Tangunan wedi'i dewis i fynd i rownd gynderfynol Falling Walls Lab 2021.
Fforwm rhyngwladol yw Falling Walls Lab i'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr, crewyr a gweledyddion gyrfa gynnar. Y nod yw hyrwyddo syniadau rhagorol a chysylltu gwyddonwyr ac entrepreneuriaid addawol o bob maes.
Bob blwyddyn o fis Mawrth i fis Hydref, mae sefydliadau academaidd ar draws y byd yn cynnal Falling Walls Labs lleol i arddangos ansawdd, amrywiaeth ac angerdd meddyliau mwyaf arloesol eu rhanbarth. Mewn tri munud yr un, caiff y cyfranogwyr gyfle i gyflwyno eu datrysiadau i rai o heriau mwyaf ein hoes i'w cymheiriaid, rheithgor o arbenigwyr o'r byd academaidd a busnes, a'r cyhoedd. Bydd yr enillydd yn mynd i'r Rownd Derfynol fyd-eang ym Merlin ar 7 Tachwedd ac yn ennill tocyn i fynd i Uwchgynhadledd Gwyddoniaeth Falling Walls.
Mae prosiect Tangunan, a gyllidir gan Weithredoedd Marie Sklodowska-Curie Horizon 2020 yr UE, yn canolbwyntio ar effaith newid hinsawdd yn y gorffennol ar yr ecosystem forol, yn benodol ar algae calcheiddio microsgopig, o'r enw cocolithofforau. Cocolithofforau yw un o'r prif grwpiau o ffytoplancton sy'n doreithiog yn ein cefnforoedd ac yn sail i'r we fwyd morol.
Mae'r ymchwil yn edrych ar gyfres ddigynsail o ddilyniannau gwaddodol morol hir cyflawn - yn cynrychioli hanes miliwn o flynyddoedd o hinsoddau'r gorffennol - ac yn defnyddio cyfuniad o baramedrau ffisegol a geocemegol o weddillion ffosil cocolithofforau i gynnig cymhariaeth â lefelau carbon deuocsid atmosfferig y gorffennol, gweithrediad yr ecosystem, ac integreiddio'r data hyn mewn fframwaith modelu.
Bydd canlyniadau'r astudiaeth yn cynnig gwybodaeth am ymateb posibl organebau morol yn y dyfodol i fyd sy'n cynhesu a bydd yn torri waliau cynllunio yn y dyfodol ar gyfer strategaethau ar sail tystiolaeth o ran monitro, lliniaru a rheoli'r ecosystem forol - a'n hamgylchedd yn gyffredinol.
Os hoffech wylio Deborah yn y rownd gynderfynol yn fyw, cynhelir y digwyddiad ddechrau mis Hydref.
Dymunwn bob hwyl i Dr Tangunan yn y gystadleuaeth!