Astudiaeth newydd i ganfod a allai ffyngau helpu i atal tirlithriadau
10 Medi 2021
Mae'r Athro Lynne Boddy'n gweithio gyda Prifysgol Ystrad Clud i ymchwilio a all y nodweddion mewn ffyngau sy'n cryfhau pridd liniaru tirlithriadau
Bydd yr astudiaeth yn defnyddio ffyngau a phridd a gasglwyd o'r DU a'r Eidal i ddeall sut y gellir rheoli twf gwahanol rywogaethau ffwng i wella perfformiad peirianneg priddoedd naturiol. Mae ffyngau'n cryfhau pridd ac yn lleihad ymdreiddiad dwr glaw, sydd ill dau'n achosi tirlithriadau'n gyffredin.
Dywedodd Dr El Mountassir, Uwch-ddarlithydd yn Adran Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol Ystrad Clud: "Wrth i ffyngau dyfu drwy briddoedd i chwilota am faetholion, fe wyddom eu bod yn adeiladu rhwydwaith 3D o fiomas sydd nid yn unig yn rhwymo gronynnau pridd at ei gilydd ond sydd hefyd yn rhyddhau cynhyrchion a all addasu sut mae dŵr yn symud drwy bridd.
"Mae rhai llethrau'n methu'n rheolaidd ar ol cyfnodau o law trwm pan fydd dŵr yn ymdreiddio i'r pridd ac yn lleihau ei gryfder. Syniad yr astudiaeth hon yw defnyddio ffyngau i greu geodecstil ar wyneb y pridd, a allai leihau gallu'r dŵr i dreiddio i'r pridd, ac felly wella sefydlogrwydd llethrau.
"Byddwn yn edrych ar wahanol fathau o bridd, gan gynnwys pridd pyroclastig sy'n tarddu o ffrwydradau Mynydd Vesuvius, gan edrych ar sut mae tyfiant ffwngaidd yn newid cydlyniant y pridd."
Mae'r ymchwil yn rhan o newid at sector peirianneg sifil mwy cynaliadwy, carbon isel, ac fel system sy'n seiliedig ar dwf, byddai'n lleihau faint o ddeunyddiau y byddai angen eu cludo i'r safle.
Mae'r Athro Boddy yn hyfforddi peiriannydd mewn methodoleg a dealltwriaeth ecoleg ffwngaidd, yn ogystal a gweithredu fel mentor ymgysylltu a'r cyhoedd. Dywed: “Mae hwn yn brosiect pwysig fydd yn datblygu’r defnydd o mycelia ffwngaidd mewn peirianneg daear. Mae angen i ni gael ymagwedd fwy cynaliadwy at beirianneg daear h.y. cwtogi ar y defnydd o gemegau sy'n niweidiol i'r amgylchedd a'r defnydd o ddeunyddiau ynni-ddwys (e.e. sment). Fel cam at gyflawni hyn, bydd y prosiect yn ymchwilio i allu systemau pridd-mycelial (prif gorff y ffwng) i wella sefydlogrwydd llethrau."
Mae Prifysgol Napoli Federico II a'r cwmni peirianneg BAM Ritchies hefyd yn bartneriaid yn yr astudiaeth, sydd wedi'i chyllido drwy Gymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol werth £1.26M gan UKRI (Ymchwil ac Arloesedd y DU) am bedair blynedd.