Prosiect LCBE ar restr fer Gwobrau Tai 2021
9 Medi 2021
Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi gweithio gyda Chyngor Abertawe i leihau biliau ynni ac allyriadau carbon yn sylweddol, a gwella cyflwr rhai o'u cartrefi ar yr un pryd. Mae'r prosiect wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tai Cymru 2021 yn y categori Rhagoriaeth mewn Arloesedd Tai.
Mae chwe byngalo oddi ar y prif gyflenwad nwy yn Abertawe wedi'u trawsnewid yn 'Gartrefi fel gorsafoedd pŵer' hynod ynni-effeithlon sy'n cynhyrchu ac yn storio eu hynni eu hunain ac yn sicrhau arbedion ynni sylweddol i'r preswylwyr. Bellach mae'r cartrefi'n fwy cyfforddus a deniadol ac mae'r gwersi a ddysgwyd yn llywio trafodaeth ehangach ynghylch heriau ôl-ffitio stoc, sy'n hanfodol ar gyfer cyflawni targedau sero carbon net.
Cynhelir Gwobrau Tai Cymru 2021 ar 30 Medi a'u nod yw cydnabod a dathlu creadigrwydd, angerdd ac arloesedd sefydliadau tai ac unigolion ar draws y sector yng Nghymru. Nod y wobr Rhagoriaeth mewn Arloesedd Tai yw gwobrwyo rhaglenni neu brosiectau sy'n gallu dangos yn glir sut maen nhw wedi datblygu ymagwedd arloesol sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau tenantiaid a chwsmeriaid.
Dywedodd arweinydd y prosiect Dr Jo Patterson fod 'gweithio drwy'r broses gyfan o gynllunio i ddylunio i'w rhoi ar waith a'i gweithredu gyda Chyngor Abertawe a'r preswylwyr wir wedi dangos pa mor bwysig yw cyfathrebu clir a rheolaidd. Mae hyn yn sicrhau bod heriau'n cael eu goresgyn yn gyflym er mwyn galluogi'r systemau i weithio mor effeithiol â phosibl '.
Dywedodd ymchwilydd LCBE Emmanouil (Manos) Perisoglou sy'n arwain ar fonitro a gwerthuso'r cartrefi: 'Rydym ni wedi casglu gwybodaeth ar yr amgylchedd adeiledig, y defnydd o ynni a'r technolegau cyn ac ar ôl cyflawni'r gwaith. Mae'r wybodaeth hon yn hanfodol i fesur pa mor garbon isel yw'r adeiladau hyn mewn gwirionedd ac mae'n helpu i roi hyder i sefydliadau eraill sy'n awyddus i fuddsoddi mewn datrysiadau carbon isel.'
Caiff pawb sydd ar y rhestr fer yng ngwobrau tai Cymru hefyd eu cynnwys yng Nghompendiwm Arfer Da 2021, sy'n cynnwys llwyddiannau gorau'r gweithwyr tai proffesiynol yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect ôl-ffitio Abertawe a phrosiectau eraill sydd ar waith gan LCBE ewch i'r wefan.
Mae prosiect LCBE yn rhan o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, a arweinir gan Brifysgol Abertawe a'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac EPSRC.