Sawru cynhanes yng Ngŵyl Gwyddoniaeth Prydain
8 Medi 2021
Bwydlen Neolithig yn siop Stonehengebury's drwy law Guerrilla Archaeology
Neidio'n ôl 4,500 o flynyddoedd i brofi'r bwydydd yr oedd ein hynafiaid cynhanesyddol yn eu mwynhau y bydd y rheiny sy’n mynd i Ŵyl Gwyddoniaeth Prydain eleni, diolch i archeolegwyr o Gaerdydd.
Bydd yr ymwelwyr yn darganfod yr hyn y bu ein hynafiaid yn y cynfyd yn ei fwyta ond byddan nhw hefyd yn cael gwybod sut amrywiaeth ryfeddol o seigiau a phrydau a oedd ganddyn nhw drwy law yr archfarchnad Neolithig dros dro ‘Stonehengebury’s’, diolch i grŵp Guerrilla Archaeology a oedd yng ngŵyl gwyddoniaeth hynaf Ewrop.
Mae'r Athro Archaeoleg Jacqui Mulville, sylfaenydd y grŵp dros dro, yn esbonio rhagor:
"Mae bwyd yn creu cysylltiad personol rhwng pobl a'r gorffennol. Pan fyddwch chi’n dechrau dychmygu pa oglau, pa olwg a pha flasau oedd ynghlwm wrth fywyd cynhanes, ni fydd wedyn yn ymddangos yn rhywbeth sydd mor bell yn ôl yn y gorffennol.
“Mae gwaith diweddar wedi rhoi cipolwg hynod o ddiddorol a newydd inni ar fwyd a gwledda yn ystod cyfnod cynhanes. Mae mentrau megis Guerrilla Archaeology yn dangos bod pobl o bob haen o gymdeithas yn awyddus i ddysgu rhagor am y gorffennol ac maen nhw eisiau mynd ati i gymryd rhan yn y dasg o archwilio a dehongli gwybodaeth archeolegol."
Mae ymwelwyr â Stonehengebury's yn cael edrych ar gynnyrch o'r adeg pan ddechreuodd pobl ffermio gyntaf ym Mhrydain yn ogystal â chymryd rhan mewn nifer o weithgareddau rhyngweithiol i ddyfnhau eu gwybodaeth am fwydydd, coginio a bwyta yn y cynfyd.
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys ceisio darganfod pryd a ble a sut yr oedd pobl wedi dod o hyd i wahanol fwydydd a'u prosesu, yn ogystal â'r ffordd y byddwn ni’n olrhain milltiroedd bwyd y cynfyd, gan ymdrin mewn ffordd ysgafn â’r heriau ynghlwm wrth droi at ffermio.
Mae grŵp dros dro Guerilla Archaeology sy’n cael ei gyflwyno ar draws y DU gan archeolegwyr, gwyddonwyr ac artistiaid, eisoes wedi cymell miloedd o bobl i wybod rhagor am y ddisgyblaeth mewn rhai o wyliau mwyaf adnabyddus y byd.
Cynhelir Gŵyl Gwyddoniaeth Prydain eleni ym Mhrifysgol Anglia Ruskin yn Chelmsford rhwng 7 a 10 Medi, a bydd Stonehengebury’s ar agor nos Wener a drwy’r dydd ddydd Sadwrn yn Marconi Plaza.