Mae Shamma Tasnim, myfyrwraig MSc mewn Mega-Adeiladau Cynaliadwy, ar restr fer cystadleuaeth ddylunio CTBUH
8 Medi 2021
Rydyn ni’n falch iawn o roi gwybod bod prosiect 'The Hyperion Habitat' Shamma Tasnim, myfyrwraig MSc mewn Mega-Adeiladau Cynaliadwy ar restr fer rownd gynderfynol cystadleuaeth ddylunio hynod bwysig y Cyngor ar Adeiladau Uchel a Chynefinoedd Trefol (CTBUH), a hynny o blith miloedd o gynigion o bob rhan o'r byd.
Roedd arweinydd cwrs yr MSc mewn Mega-Adeiladau Cynaliadwy, Dr. Eshrar Latif, yn gynghorydd yn ystod datblygiad y prosiect a bu’n rhoi cipolygon ystyriol ar y syniad o greu o safbwynt dull modiwlaidd, yr economi gylchol, cynaliadwyedd, a dewis enw'r prosiect.
Cynllun hunangynhaliol, cynaliadwy, addasol, modiwlaidd, cost isel ar gyfer argyfwng Ffoaduriaid y Rohinga yn Bangladesh yw’r Hyperion Habitat. Dilyswyd y cynllun yn sgîl efelychiadau thermol deinamig a gellir addasu’r cynllun yn unol â’r anghenion cymdeithasol gan ei wneud yn ymyrraeth sy'n ystyried y broblem o safbwynt cynaliadwyedd cyfannol.
Dyma a ddywedodd Dr Eshrar Latif, arweinydd cwrs yr MSc mewn Mega-Adeiladau Cynaliadwy yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru:
“Mae rhoi prosiect Shamma ar y rhestr fer yn dangos cryfder yr MSc mewn Mega-Adeiladau Cynaliadwy fel cwrs academaidd blaengar sy’n canolbwyntio ar fega-adeiladau carbon isel sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.”
I gael rhagor o wybodaeth am raglen yr MSc mewn Mega-Adeiladau ewch i dudalennau'r cwrs.