Ewch i’r prif gynnwys

Canslo hediadau, hawliau defnyddwyr a’r pandemig COVID-19

8 Medi 2021

Mae tîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac Ysgol Busnes Caerdydd yn ymchwilio i ymwybyddiaeth defnyddwyr o hawliau cyfreithiol yn ystod y pandemig.

Dyfarnwyd cyllid gan Ganolfan y Gyfraith a Chymdeithas Prifysgol Caerdydd i Dr. Sara Drake, Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith, Dr. Carmela Bosangit, Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata, a Dr. Stephanie Slater, Darllenydd mewn Marchnata, Strategaeth a Busnes, i’w galluogi i gynnal grwpiau ffocws i ddarganfod faint roedd defnyddwyr yn ei wybod am hawliau teithwyr awyr pan ganslwyd eu hediadau yn ystod y pandemig ac am unrhyw lwybrau unioni. Casglodd y tîm ddata hefyd ar sut roedd cyfranogwyr yn teimlo am eu profiad gyda chwmnïau hedfan ac a fyddai hyn yn effeithio ar eu hymddygiad teithio yn y dyfodol.  Cynorthwywyd y tîm gan y Cynorthwy-ydd Ymchwil, Geena Whiteman.

Un o fanteision aelodaeth yr UE i ddefnyddwyr yn y DU yw’r lefel uchel o ddiogelwch a roddwyd gan gyfraith yr UE pan gaiff hediadau eu canslo. Pan darodd y pandemig Ewrop ym mis Mawrth 2020, roedd y gyfraith hon yn dal i fod yn gymwys yn y DU, a pharhaodd yn gymwys tan 31 Rhagfyr 2020. Yn ffodus i ddefnyddwyr, mae'r un lefel o ddiogelwch wedi'i chadw ar ôl Brexit.  Drwy Reoliad 261/2004, mae gan deithwyr awyr sy'n teithio naill ai o faes awyr yn y DU, yr UE, yr AEE neu'r Swistir, neu o faes awyr mewn trydedd wlad i'r DU, yr UE, yr AEE neu'r Swistir gyda chludwr aer sydd wedi'i drwyddedu yn un o'r gwledydd hyn yr hawl i gael ad-daliad arian parod llawn o fewn saith diwrnod os caiff eu hediad ei ganslo gan y cwmni hedfan.  Gall teithiwr awyr ddewis derbyn taleb teithio, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny.

Er nad yw methiant cwmnïau hedfan i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol yn rhywbeth newydd, gwnaeth y pandemig a’r orfodaeth i ganslo llwyth o hediadau godi ymwybyddiaeth o'r mater i lefel newydd.  Roedd llawer o gwmnïau hedfan yn araf yn cydymffurfio â'r gyfraith ac aeth rhai o wledydd yr UE cyn belled â galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i atal diogelwch defnyddwyr i deithwyr awyr. Gwrthododd y Comisiwn Ewropeaidd ac mae'r rhan fwyaf o gwmnïau awyrennau wedi cyflawni eu rhwymedigaethau'n raddol, yn aml o dan bwysau gan gyrff gorfodi cenedlaethol fel Awdurdod Hedfan Sifil y DU.

"Roeddem am ddysgu mwy am y bwlch rhwng y gyfraith ar bapur a'r gyfraith ar waith. Sut cafodd teithwyr awyr eu trin gan gwmnïau hedfan yn ystod y pandemig a sut roedden nhw’n teimlo am y gwasanaeth a gawsant? I ba raddau roedden nhw'n gwybod beth i'w wneud os oedden nhw'n anhapus gyda'r ymateb?"

Dr Sara Drake Senior Lecturer in Law

Mae yna wahanol lwybrau unioni os yw teithwyr awyr yn anhapus ag ymateb eu cwmni hedfan a’u bod am fynd â’r mater ymhellach. Er na fydd cwyn i reoleiddiwr y DU, yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), yn sicrhau y gwneir iawn i'r defnyddiwr unigol, gall y CAA roi pwysau ar y cwmnïau hedfan i gydymffurfio â'r gyfraith y tu ôl i'r llenni a gall ddilyn hyn gyda chamau gorfodi gerbron y llysoedd.  Gall defnyddwyr droi at ddau gorff ADR hedfan y DU, Aviation ADR a’r Ganolfan Datrysiad Anghydfod Effeithiol, ond ychydig o ddefnyddwyr sy'n gwybod am eu bodolaeth ac nid yw pob cwmni hedfan yn cytuno i ddatrys anghydfodau fel hyn. Nid yw cymryd camau cyfreithiol, naill ai drwy gwmni rheoli hawliadau neu'n uniongyrchol gerbron y llysoedd, bob amser yn opsiwn deniadol i ddefnyddwyr lle mae'r swm dan sylw yn gymharol fach.

Yr hyn sydd wedi taro'r tîm am y data a ddadansoddwyd hyd yma yw'r ystod o ffynonellau yn y cyfryngau lle dysgodd defnyddwyr am eu hawliau yn ystod yr argyfwng yn erbyn y lefel isel o ymwybyddiaeth o sut y gellir gorfodi'r hawliau hyn.  Roedd yn amlwg o'r grwpiau ffocws fod gwybodaeth am y gwahanol ffyrdd o unioni yn dameidiog iawn neu ar goll yn llwyr mewn rhai achosion.

Bydd y mewnwelediadau gwerthfawr a gafwyd o'r prosiect hwn yn helpu'r tîm i nodi bylchau a chyfyngiadau ar orfodi hawliau defnyddwyr yn effeithiol ac yn caniatáu iddo ddatblygu cynigion i lunwyr cyfreithiau a pholisi ar gyfer gwella'r gyfraith a'i gweithrediad. Mae'r ymchwil hon yn adeiladu ar ymchwil flaenorol a wnaed gan Dr. Drake ar orfodi cyfraith a pholisi'r UE yn effeithiol (Drake a Smith, 2016) gan gynnwys adroddiad a ysgrifennwyd ar gyfer Senedd Ewrop (2018) ar hawliau teithwyr awyr.

Rhannu’r stori hon