Ewch i’r prif gynnwys

Troliau sydd o blaid y Kremlin yn ymdreiddio cyfryngau amlwg y Gorllewin dro ar ôl tro

6 Medi 2021

Yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd, mae ymgyrch fawr sydd o blaid buddiannau’r Kremlin yn dylanwadu’n systematig ar gyfryngau'r Gorllewin i ledaenu propaganda a thwyllwybodaeth.

Mae ymchwilwyr o'r Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch wedi canfod tystiolaeth bod 32 o gyfryngau amlwg ar draws 16 o wledydd wedi'u targedu yn yr adrannau sy’n croesawu sylwadau gan ddarllenwyr.

Mae’r gwefannau sydd wedi’u targedu yn y fath fodd dro ar ôl tro yn cynnwys: The Daily Mail; Daily Express a The Times yn y DU; Fox News America a Washington Post ; Le Figaro yn Ffrainc; Der Spiegel a Die Welt yn yr Almaen; a La Stampa yn Yr Eidal.

Nododd y tîm 242 o straeon lle cafodd datganiadau pryfoclyd oedd o blaid Rwsia neu’n wrth-Orllewinol eu postio mewn ymateb i erthyglau sy'n berthnasol i Rwsia. Yna cafodd y sylwadau hyn eu bwydo yn ôl i ystod o allfeydd cyfryngau iaith Rwseg a oedd yn eu defnyddio fel sail straeon am ddigwyddiadau gwleidyddol dadleuol.

Gwelwyd achosion ohonynt ar 'gyfryngau ymylol' hefyd yn ogystal â gwefannau eraill sydd â hanes o ledaenu twyllwybodaeth a phropaganda. Roedd gan rai ohonynt gysylltiadau ag asiantaethau cudd-wybodaeth Rwsia yn ôl gwasanaethau diogelwch y Gorllewin.

Datgelwyd yr ymgyrch ddylanwadu hon fel rhan o ymchwil i weithgareddau ar-lein yng nghanol tensiynau rhwng yr Wcráin a Rwsia yn gynharach eleni. Ond mae ymchwilwyr yn credu bod y defnydd o'r tactegau hyn wedi bod yn cynyddu ers 2018.

Dywedodd yr Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch, sy'n arwain Ymchwil Dadansoddi Cyfathrebiadau o Ffynonellau Agored (OSCAR): “Mae'r ymgyrch hon yn arbennig o arwyddocaol oherwydd ei graddfa ryngwladol a'i dull soffistigedig o gamddefnyddio ystod eang o gyfryngau, gwefannau a chyfryngau cymdeithasol mewn ffordd gydlynol. Trwy herwgipio adrannau sylwadau brandiau cyfryngau'r Gorllewin, mae wedi gallu cyflwyno ei bropaganda fel barn brif ffrwd.

“Mae cyfryngau’r Gorllewin y gwnaethon ni ymchwilio iddyn nhw yn arbennig o agored i gael eu camddefnyddio fel hyn, gan nad oes unrhyw fesurau diogelwch ar waith i atal y math hwn o weithgaredd, ei ganfod nac annog y rhai sydd y tu ôl iddo i ailystyried. Mae troliau wedi gallu newid yn hawdd rhwng personas a hunaniaethau, sy'n rhywbeth y mae'r dechnoleg yn ei alluogi mewn gwirionedd."

Er mwyn eu dadansoddi, defnyddiodd ymchwilwyr dechnegau adnabod a chanfod patrymau gwyddoniaeth data ar sylwadau darllenwyr, a amlygodd gyfres o ymddygiadau anarferol sy'n gysylltiedig â rhai cyfrifon yn postio cynnwys oedd o blaid y Kremlin. Mae'r signalau o anwiredd a chydlynu lluosog hyn, er eu bod yn gymharol 'wan' yn unigol, wrth eu crynhoi gyda'i gilydd, yn awgrymu y gallai’r sylwadau fod yn drefnedig.

Mae rhai o'r llwyfannau sylwadau yn caniatáu i ddefnyddwyr eraill bleidleisio dros bostiadau. Derbyniodd sylwadau oedd o blaid y Kremlin nifer a chyfran anarferol o uchel o 'bleidleisiau i fyny' dro ar ôl tro o'u cymharu â negeseuon nodweddiadol gan ddefnyddwyr 'normal'.

Mae dadansoddiad ymddygiadol fforensig manwl o broffiliau cyfrifon sy'n postio sylwadau sydd o blaid y Kremlin yn nodi bod rhai o'r defnyddwyr hyn yn newid eu personas a'u lleoliadau dro ar ôl tro; roedd gan un cyfrif o ddiddordeb 69 newid lleoliad a 549 newid enw ers ei greu ym mis Mehefin y llynedd.

Nododd yr adroddiad fod tystiolaeth hefyd o gydweithio rhwng cyfryngau dan berchnogaeth gwladwriaeth Rwsia a chyfryngau sy'n gysylltiedig â Patriot Media Group anwladwriaethol, oedd yn arsylwi ac yn tynnu ar y sylwadau hyn gan ddarllenwyr.

Cyhoeddwyd erthyglau dilynol, gan ddefnyddio penawdau fel “Daily Mail readers say…” a “Readers of Der Spiegel think…” i awgrymu bod cefnogaeth o bwys ymhlith dinasyddion y Gorllewin i Rwsia neu’r Arlywydd Putin. Ymledodd y straeon iaith Rwsieg hyn hefyd i gynulleidfaoedd yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop, a Bwlgaria yn bennaf.

Dywedodd yr Athro Innes: “Wrth i blatfformau cyfryngau cymdeithasol prif ffrwd ddod yn fwy effro i risgiau ymgyrchoedd dylanwadu gwladwriaethol dramor, mae actorion a phropagandwyr twyllwybodaeth wedi bod yn chwilio am wendidau newydd yn ecosystem y cyfryngau i’w hecsbloetio. Trwy fabwysiadu strategaeth gyfryngau 'sbectrwm llawn' sy'n cyfuno gwybodaeth o gyfryngau cymdeithasol a phrif ffrwd, mae'r ymgyrch soffistigedig hon wedi bod â'r potensial i lunio meddyliau, emosiynau ac ymddygiad sawl cynulleidfa ryngwladol amrywiol.

“Yn bwysicaf oll, mae'r tactegau a'r technegau penodol a ddefnyddir i 'hacio' yr adran sylwadau o fewn ecosystem y cyfryngau, yn ei gwneud hi'n anodd iawn priodoli cyfrifoldeb am yr ymddygiad trolio sydd o blaid y Kremlin ar sail data ffynhonnell agored sydd ar gael i'r cyhoedd. Felly, mae'n hanfodol bod cwmnïau cyfryngau sy'n rhedeg gwefannau cyfranogol yn fwy tryloyw ynghylch sut maen nhw'n mynd i'r afael â thwyllwybodaeth ac yn fwy rhagweithiol wrth ei hatal.”

Mae rhaglen OSCAR yn Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch Prifysgol Caerdydd yn rhaglen ymchwil hirdymor ar raddfa fawr. Mae wedi'i llunio i ddeall achosion a goblygiadau twyllwybodaeth yn well, ac mae wedi cynhyrchu nifer o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid. Ariannwyd rhan o'r gwaith hwn gan Lywodraeth y DU a thrwy'r gefnogaeth hon y nododd ymchwilwyr y prosesau dylanwadau a ddisgrifir yn fanwl yn yr adroddiad diweddaraf hwn.

The team identified 242 stories where provocative pro-Russian or anti-Western statements were posted in reaction to articles of relevance to Russia. These comments were then fed back to a range of Russian-language media outlets who used them as the basis of stories about politically controversial events.

They were also reported on by other ‘fringe media’ and websites with track records of spreading disinformation and propaganda, and some that have been linked by Western security services to Russian intelligence agencies.

This influence operation was uncovered as part of research into online activities amid tensions between Ukraine and Russia earlier this year. But researchers believe the use of these tactics has been escalating since 2018.

Director of the Crime and Security Research Institute Professor Martin Innes, who heads the Open Source Communications Analytics Research (OSCAR) programme said: “This influence campaign is especially significant due to its international scale and its sophisticated manipulation of a wide range of media outlets, websites and social media in a co-ordinated way. By hijacking the comments sections of Western media brands, it has been able to present its propaganda as indicative of mainstream opinion.

“The Western media outlets we investigated are especially vulnerable to this kind of manipulation, with no security measures in place to prevent, deter or detect this kind of activity. Trolls have been able to easily switch between personas and identities, which is something the technology actually enables.”

For their analysis, researchers employed data science pattern recognition and detection techniques to reader comments, which illuminated a series of unusual behaviours associated with some accounts posting pro-Kremlin content. These multiple inauthenticity and co-ordination signals, although individually relatively ‘weak’, when aggregated together, suggest that the commenting activity may be orchestrated.

Some of the commenting platforms allow other users to vote on posts. Pro-Kremlin comments repeatedly received an unusually high number and proportion of ‘up-votes’ when compared with typical messages by ‘normal’ users.

Detailed forensic behavioural analysis of account profiles posting pro-Kremlin comments identifies that some of these users are repeatedly changing their personas and locations; one account of interest had 69 location changes and 549 changes of name since its creation in June last year.

The report says there was also evidence of co-ordination between Russian state-owned media and outlets linked to the non-state Patriot Media Group, which were observing and drawing upon these reader comments.

Subsequent articles, using headlines such as “Daily Mail readers say…” and “Readers of Der Spiegel think…” were published to suggest there is extensive support among Western citizens for Russia or President Putin. These Russian-language stories also spread to audiences in Central and Eastern Europe, most prominently in Bulgaria.

Professor Innes said: “As mainstream social media platforms have become more alert to the risks of foreign state influence operations, so disinformation actors and propagandists have been seeking new vulnerabilities in the media ecosystem to exploit. By adopting a ‘full spectrum’ media strategy that blends together information from social and mainstream media outlets, this sophisticated campaign has had the potential to shape the thoughts, emotions and behaviour of several diverse international audiences in relation to high-profile media stories.

“Most importantly, the particular tactics and techniques used to ‘hack’ the comments function in the media ecosystem make it almost impossible to attribute responsibility for the pro-Kremlin trolling behaviour on the basis of publicly available open-source data. It is therefore vital that media companies running participatory websites are more transparent about how they are tackling disinformation and more proactive in preventing it.”

The OSCAR programme at Cardiff University’s Crime and Security Research Institute is a large-scale long-term research programme designed to better understand the causes and consequences of disinformation, which has generated a number of peer-reviewed publications. Part of this work has been funded by UK Government and it was via this support that researchers identified the influence operation processes described in detail in this latest report.

How a Kremlin-Linked Influence Operation is Systematically Manipulating Western Media to Construct and Communicate Disinformation

In the process of researching mounting tensions between Ukraine and Russia in April 2021, researchers detected signals and traces of a major influence operation.

Rhannu’r stori hon