Mae peiriannydd meddalwedd ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Ysgol Seicoleg i lansio ap sy'n annog dewisiadau o ran bwyta'n iach
1 Medi 2021
Mae Jeff Morgan, Peiriannydd Meddalwedd Ymchwil (RSE) yn y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data (DIRI) wedi bod yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr o Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd i hwyluso dadansoddiadau cyflym a manwl gywir o'r data a gasglwyd o’r ap.
Mae'r ap prawf Restrain a lansiwyd ym mis Mehefin 2021 eisoes yn rhoi data adborth gwerthfawr; mae'r tîm yn gobeithio y bydd miloedd o bobl yn ei ddefnyddio ac y bydd hyn yn rhoi'r cyfle iddyn nhw fireinio'r ap ymhellach.
Dyma a ddywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Chris Chambers: "Mae cael cymorth Peiriannydd Meddalwedd Ymchwil (RSE) yn y Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data wedi bod yn ganolog i'r prosiect hwn. Mae treial Restrain yn profi miloedd o bobl dros gyfnod o nifer o fisoedd, gan greu cryn nifer o ddata crai drwy ffonau clyfar. Yna mae angen derbyn, hidlo a churadu’r data’n ofalus er mwyn ei ddadansoddi ymhellach. Mae ein RSE, Jeff Morgan, wedi rhoi cymorth hanfodol o ran creu a chynnal y côd sy'n sicrhau uniondeb a defnyddioldeb y gronfa ddata."
Gan ddefnyddio gemau hyfforddi'r ymennydd, rydych chi’n dewis pa fwydydd i'w cynnwys yn eich treial, gan nodi ai eich nod yw cynyddu neu leihau faint o fwyd penodol sy'n cael ei fwyta. Mae'r ap yn eich cynorthwyo i wneud dewisiadau iachach - yn ogystal â monitro pwysau yn wythnosol, adroddiadau am fwyd, ynghyd â chofnodi eich agweddau tuag at fwyd a'ch awch amdano.
Lluniwyd yr ap, sydd yn rhad ac am ddim, i'w ddefnyddio yn ystod cyfnodau bach o amser yn ystod tri mis, a bydd pob sesiwn ddyddiol yn para rhwng 10 a 15 munud. Gallwch chi lawrlwytho'r ap Restrain yma